Telerau ac Amodau'r Cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes Gorfforaethol
Diolch am ddewis dod yn aelod o'n Cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes Gorfforaethol. Mae'r ddogfen yma'n cynnwys y telerau ac amodau sy'n berthnasol i'r Cynllun.
Mae cyfeiriadau at 'ni' neu 'ein' yn cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae cyfeiriadau at 'chi' ac 'eich' yn cyfeirio at yr unigolyn sy'n llenwi'r Ffurflen Gais.
Ystyr y 'Cytundeb' yw'r cytundeb aelodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun rydych chi ac rydyn ni'n ymrwymo iddo, sy'n cynnwys y Ffurflen Gais a'r Telerau ac Amodau yma.
Ystyr y 'Ffurflen Gais' yw'r ffurflen gais rydych chi wedi'i llenwi cyn dod yn aelod o'r Cynllun.
Ystyr 'Y Clwb' yw'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo ar adeg arwyddo'r Ffurflen Gais.
Ystyr 'y Cynllun' yw Cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes Gorfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n cynnig buddion a gostyngiadau i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) o bryd i'w gilydd yn ein Canolfannau Hamdden. [Mae manylion llawn buddion a gostyngiadau'r Cynllun ar gael gennym ni ar gais].
Ystyr 'Dyddiad Cychwyn y Cynllun' yw'r dyddiad sydd wedi cael ei gytuno rhyngom ni a'ch clwb i gychwyn y Cynllun [Bydd eich Clwb yn rhoi gwybod y swm i chi cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Gais]
Ystyr 'Costau Tanysgrifio'r Cynllun' yw'r swm sydd i'w gasglu'n fisol gennym ni drwy Ddebyd Uniongyrchol er mwyn eich galluogi chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) i gymryd rhan yn y Cynllun. [Bydd eich Clwb yn rhoi gwybod y swm i chi cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Gais]
Manylion y Cynllun Aelodaeth
Rydych chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn cytuno i ymrwymo i'r Cytundeb
Mae'r Cynllun yn agored i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) cyn belled â bod eich Clwb yn parhau i fod yn rhan o'r Cynllun neu, os bydd eich Cyflogwr yn tynnu allan o'r Cynllun, yn ôl ein disgresiwn.
Efallai y bydd y swm misol sy'n daladwy gennych chi o dan y Cynllun yn newid yn ystod cyfnod y Cytundeb yn unol ag unrhyw gynnydd blynyddol mewn prisiau gan yr Awdurdod.
Rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am aelodaeth i'r Cynllun.
Hyd cyfnod y Cytundeb rhyngoch chi a ni fydd 12 mis (y 'Cyfnod'), a bydd yn dechrau ar Ddyddiad Cychwyn y Cynllun pan fyddwch chi'n cytuno i dalu Costau Tanysgrifio'r Cynllun
Mewn amgylchiadau eithriadol (megis newid annisgwyl sylweddol mewn amgylchiadau personol, anaf neu salwch/afiechyd a fyddai'n cyfyngu ar eich gallu i ddefnyddio'r cyfleusterau), byddwn ni'n caniatáu dirymu'r cytundeb aelodaeth yn gynnar cyn diwedd y cyfnod sydd wedi’i gytuno. Rhaid i bob cais i ddirymu'r cytundeb yn gynnar fod yn ysgrifenedig neu drwy e-bost a bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.
Yn ôl ein disgresiwn, bydd cyfleoedd, fel arfer ar ddechrau bob mis, i aelodau newydd a phartneriaid cysylltiedig y Clwb ymuno â'r Cynllun am gyfnod o 12 mis.
Os byddwch chi'n peidio â bod yn rhan o'r Clwb am unrhyw reswm ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y Cytundeb, rydyn ni'n cadw'r hawl i ganiatáu i'ch aelodaeth barhau am weddill y tymor neu, os ydych chi am adael y cynllun, bydd modd i chi wneud hynny drwy drefniant.
Er mwyn osgoi amheuaeth, rydych chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn parhau i fod â hawl i ddefnyddio'r Cynllun am weddill cyfnod y Cytundeb cyn belled â'ch bod yn parhau i dalu Costau Tanysgrifio'r Cynllun am weddill cyfnod y Cytundeb.
Rydych chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn cytuno i gydymffurfio â holl bolisïau, rheolau a rheoliadau ein Canolfannau Hamdden.
Aelodaeth o'r Cynllun
A chithau'n aelod o'r Cynllun, byddwch chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn derbyn cerdyn aelodaeth y Cynllun. Mae cerdyn aelodaeth y Cynllun yn ddilys dros gyfnod y Cytundeb ac nid yw'n drosglwyddadwy.
Mae modd i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) ddefnyddio'ch cerdyn aelodaeth yn unrhyw un o'n Canolfannau Hamdden yn ystod oriau agor arferol yn amodol ar argaeledd cyfleusterau.
Ni sy'n darparu'r cerdyn aelodaeth ac mae'n parhau i fod yn eiddo i ni. Mae'ch cerdyn yn dystiolaeth o'ch aelodaeth ac fe fydd yn ofynnol i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) ddangos eich cerdyn o dan rai amgylchiadau.
Yn unol â gweithdrefnau cadw lle arferol, mae Aelodaeth o'r Cynllun yn rhoi hawl i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) gadw lle ar gyfleusterau yn ein Canolfannau Hamdden hyd at saith diwrnod ymlaen llaw, gan ddyfynnu rhif y cerdyn aelodaeth. Mae canslo unrhyw archebion yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau cadw lle safonol (mae copïau ohonyn nhw ar gael ar gais).
Rhaid i chi (a'ch partner, lle bo hynny'n berthnasol) gyflwyno'ch cerdyn aelodaeth ar bob ymweliad er mwyn manteisio'n llawn ar y Cynllun. Rhaid i'r cerdyn aelodaeth gael ei lofnodi gan yr aelod sy'n cael ei enwi ar flaen y cerdyn.
Chaiff cerdyn aelodaeth mo’i ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynigion neu ymgyrchoedd hyrwyddo y mae'n bosibl y byddwn ni yn eu cynnal o bryd i'w gilydd.
Os ydych chi'n symud cyfeiriad, ysgrifennwch aton ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad 'Carfan Aelodaeth Hamdden, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, CF45 4UY' neu e-bostio aelodaethhamdden@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Byddwn ni yna'n diweddaru'ch manylion. Dyfynnwch rif eich cerdyn aelodaeth, eich enw a'ch rhif ffôn er mwyn ein helpu ni i ddod o hyd i'ch cofnod.
Os byddwch chi (neu eich partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn colli neu niweidio'ch cerdyn aelodaeth, bydd modd i ni ddarparu cerdyn newydd ar eich cyfer yn unrhyw un o'n canolfannau (efallai bydd angen i chi ddangos cerdyn adnabod).
Os yw eich cerdyn aelodaeth chi (neu un eich partner, lle bo hynny'n berthnasol) yn cael ei golli neu ei ddwyn, mae rhaid i chi roi gwybod inni drwy ffonio 01443 562202 neu drwy e-bostio aelodaethhamdden@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Os dydyn ni ddim yn cael gwybod bod y cerdyn aelodaeth wedi mynd ar goll ac mae'r cerdyn yn cael ei ddefnyddio'n ddiweddarach i wneud archeb yn unrhyw un o'n Canolfannau Hamdden, mae'n bosibl y byddwch chi'n atebol am gost yr archeb
Rydyn ni'n cadw'r hawl i ddileu neu dynnu'n ôl y Cytundeb, a / neu wrthod mynediad i'n Canolfannau Hamdden, os ydyn ni’n canfod eich bod chi (neu eich partner, lle bo hynny'n berthnasol) wedi torri unrhyw ran o'r cytundeb, neu os bydd unrhyw un arall neu unrhyw rai eraill o reoliadau'r Canolfannau Hamdden yn cael eu torri.
Rydyn ni'n cadw'r hawl i ddileu, tynnu'n ôl, neu newid telerau ac amodau'r Cynllun heb roi rhybudd i chi ac yn ôl ein disgresiwn ni.
Diogelu data
Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldebau ar gyfer data o ddifrif. Byddwn ni dim ond yn defnyddio'ch gwybodaeth chi at ddibenion y Cynllun yn unol â'r cyfreithiau diogelu data cyfredol.
Atebolrwydd:- Fyddwn ni a'n gweithwyr, swyddogion, ac asiantau ddim yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl os caiff eich eiddo ei golli, ei ddifrodi neu'i ddwyn (neu eiddo’ch partner, lle bo hynny'n berthnasol), neu am anaf personol, a marwolaeth ac eithrio i'r graddau fod y cyfryw golled, difrod, neu anaf neu farwolaeth o'r fath yn deillio o'n gweithred, esgeulustod neu fethiant bwriadol ni.