Skip to main content
 

Arweinyddiaeth

Llysgenhadon Ifainc

Bydd y rhaglen yn dilyn llwybr pedair haen sy'n adlewyrchu taith datblygiad ac arweinyddiaeth y bobl ifainc hyd at eu lefel bresennol yn hytrach na’u hoedran. Mae llyfrau gwaith sy'n cynnwys gweithgareddau a heriau amrywiol ar bob lefel wedi cael eu creu. Mae modd i'r bobl ifainc gwblhau'r llyfrau yma yn eu hamser eu hunain. Bydd pobl ifainc yn cael eu hannog i gadw cofnod o’u cynnydd, a’i arddangos, mewn ffyrdd creadigol sy'n gweddu eu dysgu unigol. Diben y rhaglen yw datblygu arweinwyr Cymru'r dyfodol trwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae.

Bydd Llysgenhadon Ifainc yn defnyddio eu rolau i ysbrydoli, dylanwadu, mentora ac arwain o fewn eu hysgolion a'u cymunedau. Gyda'ch cymorth chi bydd modd i ni ddarparu cymorth parhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r Llysgenhadon Ifainc fel bod modd iddyn nhw ddatblygu i fod yn arweinwyr ifainc hyderus a llawn cymhelliant sy'n meddu ar nifer o sgiliau. Rydyn ni'n awyddus iddyn nhw ddysgu sgiliau arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a gwerthfawr i wella eu sgiliau allweddol. 

I gael trosolwg llawn o'r rhaglen, darllenwch: Mudiad Llysgenhadon Ifanc - Gweledigaeth i Gymru.

Bydd y Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru yn dilyn y Llwybr Cynnydd sy’n cynnwys pedair haen (Efydd, Arian, Aur, a Phlatinwm) ac sy’n adlewyrchu siwrnai arweinyddiaeth a datblygiad y Llysgenhadon Ifanc dros amser. Gweld y llwybr cynnydd fel PDF.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Youth Sport Trust.

FFURFLEN GAIS


Llysgennad Ifanc y Mis

Rydyn ni eisiau cydnabod a gwobrwyo ein Llysgenhadon ifainc am eu holl waith caled a'r oriau gwirfoddoli maen nhw'n eu cyflawni. Bob mis, rydyn ni'n cynnwys enwau'r holl Lysgenhadon sydd wedi cofnodi eu horiau gwirfoddoli ar ap Volhours mewn raffl.  Cliciwch yma i ddarllen am ein henillwyr.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas