Dim ond cwsmeriaid cyfredol sydd eisoes yn talu am y gwasanaeth sy’n gallu manteisio ar ein casgliadau cardfwrdd.
Dylai'r cardfwrdd gael ei roi mewn sypiau taclus sy'n hawdd i'w symud, ddim mwy na 460 x 725 x 840 milimetr.
Gweler enghraifft isod:
Fydd darnau rhydd o gardfwrdd sydd ar wasgar ddim yn cael eu casglu.
Gweler enghraifft isod:

Dylai sypiau cardfwrdd beidio â chynnwys unrhyw beth ond cardfwrdd. Ni ddylai'r sypiau fod yn eithriadol o drwm.
Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer casgliadau yn barod?
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu Byd Masnach eisoes, dylech chi roi eich cardfwrdd yn eich man casglu rhwng 7pm y noson gynt, a 7am ar fore eich diwrnod casglu gwastraff byd masnach arferol. Rhowch eich cardfwrdd yn eich man casglu gwastraff. Peidiwch â rhwystro unrhyw lwybrau neu fannau mynediad sydd â chyrbiau isel.
Cofrestru â'r gwasanaeth casglu
Os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu Byd Masnach, bydd angen i chi gofrestru eich manylion er mwyn derbyn casgliadau.
Dysgwch ragor am sut i gofrestru am Gasgliadau Gwastraff ac Ailgylchu Byd Masnach, y costau a'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu