Disgrifiad o’r pwyllgor
Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cydlynu gwaith y pedwar Pwyllgor Craffu'r Cyfadrannau. Yn ogystal â hyn, mae'n cyflawni swyddogaeth trosolwg a chraffu mewn perthynas â phob thema drawsbynciol 'y Cyngor cyfan' sy'n berthnasol i gylchoedd gorchwyl y pedwar Pwyllgor Craffu'r Cyfadrannau. Mae yn Bwyllgor dynodedig y Cyngor ar faterion Trosedd ac Anrhefn (o dan Adrannau 19 a 20 o Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder 2006).