Skip to main content

Penderfyniadau Dirprwyedig

Mae modd i benderfyniadau ar ran yr adain weithredol gael eu dirprwyo i bwyllgor o'r adain weithredol, swyddog neu gyd-bwyllgor.  Mae penderfyniadau dirprwyedig yn un o'r ffyrdd y mae modd i benderfyniad ynglŷn â pholisi neu wasanaeth fynd i sylw'r Cyngor.

Yn unol ag Adran 5 o Ran 3 y Cyfansoddiad "Bydd penderfyniadau a wneir gan Swyddogion o dan awdurdod dirprwyedig yn agored i graffu, a gwneir cofnod digonol o'r cyfryw benderfyniadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol".

Mae'r penderfyniadau dirprwyedig ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig yma i'w gweld isod.  Mae'r penderfyniadau y blynyddoedd diwethaf ar gael ar ochr chwith y dudalen.

Sylwch. Fydd penderfyniad o-ddydd-i-ddydd / gweithredol nac adroddiadau eithriedig ddim yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn dilyn cyfarwyddyd gan Swyddog Monitro'r Cyngor, ond mae'r wybodaeth ar gael yn Swyddfa'r Cabinet.

Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig, 2023 hyd 2024.