Cefndir
Pasiodd Llywodraeth Cymru 'Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 MYA) (Cymru) 2022' ar 13 Chwefror 2022, a ddaeth i rym ar 17 Medi 2023. Roedd yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru roi’r fenter yma gan Lywodraeth Cymru ar waith.
Yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma, cafodd effaith fawr ar rwydwaith priffyrdd yr awdurdod lleol. Mae'r terfyn cyflymder yn y rhan fwyaf o'n strydoedd sydd â therfyn cyflymder wedi’i leihau i 20 MYA (os oes goleuadau stryd ar y ffordd).
Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y dudalen yma wrth i'r cynllun ddatblygu.
Ar ba gam ydyn ni ar hyn o bryd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol adolygu'r terfynau cyflymder o 20mya yn eu hardaloedd.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach wedi derbyn canllawiau wedi'u diweddaru er mwyn helpu swyddogion i ddechrau edrych ar y 313 cais a wnaed yn ystod "Ymgyrch Wrando" Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddechrau adolygu'r ceisiadau hyn. Bydd hyn yn golygu:
- Casglu Gwybodaeth - Mapio pob cais yn ddaearyddol i weld pa lwybrau sydd angen eu hadolygu gyntaf, yn seiliedig ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd.
- Adolygiad ac argymhellion - Adolygu pob llwybr, ystyried ffactorau fel amser teithio, y newid yng nghyflymder cerbydau, hanes gwrthdrawiadau, a rhagor cyn gwneud argymhelliad i'r Cyngor ystyried.
- Ymgynghoriad - Os yw'r adolygiad yn awgrymu cynyddu'r terfyn cyflymder o 20mya i 30mya, bydd trafodaethau pellach gyda'r cynghorydd lleol a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol yma ac yn parhau i'r flwyddyn nesaf. Gall y broses gyfreithiol (unwaith y bydd pob cais wedi'i asesu) gymryd hyd at 9 mis i'w chwblhau cyn gwneud unrhyw newidiadau i arwyddion terfyn cyflymder ar safleoedd.
Ymgynghoriadau
Mae'n ofynnol i Gyngor Rhondda Cynon Taf ymgynghori ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder diofyn 20 mya yn rhan o'r broses reoleiddio statudol (trwy roi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith). Fel y soniwyd uchod, os yw'r adolygiad yn awgrymu newidiadau i'r cyflymder 20mya presennol, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol yma.
Bydd y Cyngor yn darparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw newidiadau arfaethedig neu ymgynghoriadau sy'n gysylltiedig â'r fenter 20mya drwy'r dudalen we yma.
Eitemau Newyddion