Skip to main content

Eithriadau arfaethedig i derfyn cyflymder diofyn 20mya Cymru

20mph speed limit

Yn rhan o’r broses o fabwysiadu terfyn cyflymder diofyn 20mya Cymru fis Medi eleni, mae’r Cyngor wedi nodi ffyrdd 30 MYA presennol y bwriedir eu heithrio o’r newidiadau – gan nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf perthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya a fydd yn dod i rym ledled Cymru ar 17 Medi 2023. Felly, rhaid i bob Cyngor yng Nghymru roi'r fenter yma ar waith, a fydd yn arwain at leihau’r terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o’r ffyrdd diofyn 30 MYA presennol i 20 MYA yn ddiweddarach eleni. Fel rheol, bydd yn berthnasol i ffyrdd ble mae yna oleuadau stryd ar hyn o bryd.

Mae’r dolenni canlynol i wefan Llywodraeth Cymru yn galluogi trigolion i gael gwybod rhagor am y ddeddfwriaeth, yn barod ar gyfer y newidiadau sy’n dod i rym:

Ym mis Chwefror 2023, dechreuodd y Cyngor ar waith pellach i baratoi ei rwydwaith priffyrdd ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20 MYA. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys dileu'r marciau terfyn cyflymder ar y ffyrdd – gyda rhai lleoliadau angen gwaith gosod wyneb newydd. Mae'r gwaith yma bron wedi'i gwblhau yng Nghwm Cynon ac wedi dechrau yng Nghwm Rhondda. Bydd y cynllun yn datblygu yn ardal Taf-elái yr haf yma.

Dechreuodd cam allweddol nesaf y broses ddydd Mawrth, 13 Mehefin, pan ddechreuodd y Cyngor broses ymgynghori ar eithriadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Mae mwy na 70 o ffyrdd wedi’u nodi gan nad ydyn nhw'n bodloni meini prawf penodol Llywodraeth Cymru ar gyfer creu lleoedd – ac, os cytunir arnyn nhw, byddai’r ffyrdd yma'n parhau i fod â therfyn cyflymder o 30 MYA ar ôl 17 Medi.

Mae’r ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf y bwriedir eu heithrio o’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya bellach wedi’u hychwanegu at y map data ar wefan Llywodraeth Cymru, sydd ar gael yma.

Cyn hir, bydd y Cyngor yn dechrau'r broses statudol i gadw’r ffyrdd yma fel parthau 30 MYA. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud yn ffurfiol ar yr eithriadau arfaethedig, gan gynnwys codi gwrthwynebiadau, pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi ei Hysbysiad Cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2023. Mae modd i drigolion hefyd e-bostio swyddogion gydag ymholiadau cyffredinol ar unrhyw adeg: 20mya@rctcbc.gov.uk.

Nodwch hefyd fod gyda'r Cyngor dudalen bwrpasol ar ei wefan ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20 MYA. Mae'r dudalen yma'n darparu diweddariadau am brosiectau i drigolion, manylion pwysig am y newidiadau, a dolenni allweddol i wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r dudalen ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/20mya. 

Wedi ei bostio ar 13/06/2023