Dyma nodyn atgoffa i drigolion fod terfyn cyflymder diofyn o 20mya Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru'n dod i rym ar 17 Medi. Yma, rydyn ni wedi cynnwys dolenni at wybodaeth ddefnyddiol gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â beth i'w ddisgwyl o'r wythnos nesaf ymlaen.
Bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ledled pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, a bydd yn golygu bod y rhan fwyaf o'r ffyrdd sydd â therfyn 30mya ar hyn o bryd yn cael ei leihau i 20mya er mwyn gwella diogelwch y ffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio na fydd pob ffordd 30mya yn newid i ffordd 20mya. Yn gyffredinol, bydd yn berthnasol ble mae goleuadau stryd, oni bai bod arwyddion stryd yn nodi terfyn cyflymder gwahanol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth helaeth er mwyn helpu cymunedau i ddeall yr hyn sydd i'w ddisgwyl yn lleol o'r dyddiad cychwyn, sef ddydd Sul, 17 Medi. Mae dolenni defnyddiol at gynnwys Llywodraeth Cymru wedi'u cynnwys isod:
Gofynnwyd i bob awdurdod lleol nodi eithriadau lleol i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, er mwyn cynnal terfyn cyflymder o 30mya o 17 Medi ymlaen am nad ydyn nhw'n cwrdd â'r meini prawf penodol gafodd eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Cafodd mwy na 70 o ffyrdd eithriedig eu nodi yn Rhondda Cynon Taf (erbyn Mehefin 2023). Mae modd bwrw golwg arnyn nhw ar fap data ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yng Ngorffennaf 2023, cafodd yr hysbysiad cyhoeddus ei gyhoeddi ynghylch yr eithriadau arfaethedig yma, gan roi cyfle i'r cyhoedd leisio'u barn ac i wrthwynebu. Cafodd ail elfen yr hysbysiad cyhoeddus (Hysbysiad Gweithredu) ei chyhoeddi ar 11 Medi, a bydd y Cyngor yn ysgrifennu at drigolion wnaeth gyflwyno ymateb.
Ym mis Chwefror 2023, dechreuodd y Cyngor ar waith i baratoi ei rwydwaith priffyrdd ar gyfer y newidiadau, gyda holl gostau'n cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cael gwared â marciau terfyn cyflymder ar y ffordd, gyda mân waith ailwynebu yn angenrheidiol mewn rhai lleoliadau. Mae hyn wedi cael ei gwblhau ledled Cwm Cynon, a bydd gwaith yng Nghwm Rhondda a Thaf-elái yn cael ei gwblhau erbyn 17 Medi.
Bydd gwaith ychwanegol i osod triniaethau arwyneb coch wedi'i gwblhau erbyn 17 Medi mewn lleoliadau ble mae pyrth newydd yn cael eu cyflwyno yn unol â'r terfyn cyflymder diofyn newydd. Bydd gwaith sy'n tarfu'n cael ei nodi'n lleol mewn da bryd.
Mae'r holl arwyddion sydd angen eu newid i gydymffurfio â'r newidiadau rheoliadol ledled y Fwrdeistref Sirol am gael eu newid erbyn dydd Llun, 17 Medi. Bydd gwaith gosod arwyddion nad ydyn nhw'n ofynnol yn gyfreithiol (er enghraifft, gosod neu gael gwared ag arwyddion 20mya neu 30mya sy'n ailadrodd) yn cael ei gwblhau erbyn Tachwedd 2023.
Mae tudalen prosiect y Cyngor (http://www.rctcbc.gov.uk/20mya) yn parhau i gael ei diweddaru ac mae modd anfon ymholiadau gan drigolion am unrhyw agwedd sy'n ymwneud â'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya at 20MYA@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 13/09/23