Skip to main content

Gwaith ymlaen llaw cyn i derfyn cyflymder diofyn o 20mya Llywodraeth Cymru ddod i rym

20mph speed limit

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer Cymru, a bydd gwaith ymlaen llaw yn cael ei gynnal i baratoi’r ffyrdd ar gyfer y newid a fydd yn dod i rym yn ddiweddarach eleni.

Cytunodd y Senedd ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya y llynedd, ac mae’n ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru roi’r fenter yma gan Lywodraeth Cymru ar waith. Bydd terfyn cyflymder y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya diofyn ledled Cymru felly yn cael ei ostwng i 20mya. Yn gyffredinol, mae'r ffyrdd yma wedi’u lleoli lle mae goleuadau stryd yn eu lle ar hyn o bryd.

Mae gwybodaeth am fenter terfyn cyflymder diofyn o 20mya Llywodraeth Cymru ar gael i’w weld ar-lein. Dyma ddolenni defnyddiol:

Bydd angen i bob Cyngor yng Nghymru gynnal gwaith ymlaen llaw i baratoi eu rhwydweithiau priffyrdd ar gyfer y newid. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys cael gwared ar farciau ffordd terfyn cyflymder, gan na fydd y rhain yn cael eu caniatáu mwyach mewn ardaloedd â goleuadau stryd. Bydd eithriadau - er enghraifft, mewn lleoliadau lle mae gyrwyr yn symud rhwng terfynau cyflymder sydd ddim yn cael eu heffeithio gan y terfyn cyflymder diofyn newydd.

Mae'r gwaith ymlaen llaw bellach wedi dechrau yn ardal Cwm Cynon (yn yr wythnos yn dechrau 6 Chwefror). Bydd cyfanswm o 22 o leoliadau. Bydd y rhaglen wedyn yn symud ymlaen i leoliadau pellach yn ardaloedd Cwm Rhondda a Thaf Elái.

Bydd y gwaith yn cynnwys jetio dŵr pwysedd uchel, sy’n ddull anymosodol o dynnu marciau ffordd, a hefyd gwaith gosod wyneb newydd a fydd yn ofynnol yn rhai o'r lleoliadau. Mae'r gwaith ymlaen llaw yma'n debygol o achosi rhywfaint o darfu ar lif y traffig mewn lleoliadau unigol, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ger cyffyrdd. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mor gyflym ac effeithlon ag sy'n bosibl, a bydd cynlluniau rheoli traffig ar waith lle bo angen.

Mae'r Cyngor yn effro i'r ffaith fod nifer o'r marciau sy'n cael eu tynnu (fel y rhai ger ysgolion) wedi cael eu gosod at ddibenion diogelwch. Mae swyddogion yn adolygu'r holl opsiynau sydd ar gael i wella diogelwch ffyrdd yn y lleoliadau yma, ac wedi ysgrifennu at bob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol am y mater.

Yn ddiweddarach eleni, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliadau sydd wedi'u heithrio o'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

Mae'r Cyngor hefyd yn y broses o ddatblygu ei dudalen we benodol ei hun i roi gwybodaeth am y newidiadau sydd i ddod. Bydd y wefan yma ar gael yn fuan: www.rctcbc.gov.uk/20mya. Mae modd i drigolion hefyd gysylltu â swyddogion gydag unrhyw gwestiynau am y newidiadau sydd i ddod trwy e-bostio: 20mya@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 08/02/23