Skip to main content

Hysbysiad cyhoeddus ar eithriadau arfaethedig i derfyn cyflymder diofyn 20 MYA Llywodraeth Cymru

20mph speed limit

Mae terfyn cyflymder diofyn 20 MYA Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wedi symud ymlaen i gam nesaf ei gyflwyno. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus ar yr eithriadau arfaethedig ble bydd ffyrdd penodol yn parhau i fod â therfynau cyflymder 30 MYA.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya a fydd yn dod i rym ledled Cymru ar 17 Medi 2023. Felly, rhaid i bob Cyngor yng Nghymru roi'r fenter yma ar waith, a fydd yn arwain at leihau’r terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o’r ffyrdd diofyn 30 MYA presennol i 20 MYA yn ddiweddarach eleni. Fel rheol, bydd yn berthnasol i ffyrdd ble mae yna oleuadau stryd ar hyn o bryd.  

Mae’r dolenni canlynol i wefan Llywodraeth Cymru yn galluogi trigolion i gael gwybod rhagor am y ddeddfwriaeth, cyn i'r newidiadau ddod i rym: 

Ym mis Chwefror 2023, dechreuodd y Cyngor ar waith i baratoi ei rwydwaith priffyrdd ar gyfer y newidiadau, gyda holl gostau'r fenter yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys dileu rhai marciau terfyn cyflymder ar y ffyrdd – gyda rhai lleoliadau angen gwaith gosod wyneb newydd. Ac eithrio dau leoliad, mae'r gwaith yma wedi'i gwblhau yng Nghwm Cynon. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo yng Nghwm Rhondda a bydd yn dechrau yn ardal Taf-elái dros yr wythnosau nesaf. 

Fis diwethaf (13 Mehefin), cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi nodi'r ffyrdd 30 MYA presennol y cynigir iddyn nhw gael eu heithrio o'r newidiadau o fis Medi ymlaen - gan nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf penodol ar gyfer creu lleoedd a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae mwy na 70 o ffyrdd wedi'u nodi yn Rhondda Cynon Taf, ac mae modd bwrw golwg arnyn nhw ar y map data sydd ar wefan Llywodraeth Cymru, yma

Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi'r hysbysiad cyhoeddus swyddogol ar y cynnig i roi'r eithriadau i'r ffyrdd 30 MYA arfaethedig ar waith yn Rhondda Cynon Taf. Nodwch, dim ond ar gyfer yr eithriadau arfaethedig y mae’r hysbysiad cyhoeddus yn berthnasol – ac nid yw’n cynnwys gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn o 20 MYA ar gyfer Cymru yn ehangach, sydd eisoes wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r hysbysiad cyhoeddus eu lanlwytho i wefan y Cyngor yn www.rctcbc.gov.uk/20mya, ddydd Llun 17 Gorffennaf. Mae rhan yma'r broses yn caniatáu i drigolion wrthwynebu unrhyw un o'r eithriadau 30 MYA arfaethedig yn ffurfiol. Rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau drwy e-bostio'r cyfeiriad pwrpasol, 20mya@rctcbc.gov.uk, i'w hystyried yn swyddogol gan swyddogion. 

Mae modd i drigolion barhau i ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yma hefyd i gysylltu â swyddogion gydag ymholiadau cyffredinol am y newidiadau o fis Medi ymlaen. Mae tudalen hafan y Cyngor hefyd yn darparu diweddariadau am brosiectau i drigolion, manylion am y newidiadau, a dolenni allweddol i wefan Llywodraeth Cymru. 

Wedi ei bostio ar 21/07/2023