Skip to main content

Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau ei adolygiad o'r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru, yn dilyn gofyniad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar bob Awdurdod Lleol i ailasesu'r trefniadau cychwynnol.  Defnyddiodd yr adolygiad yma'r canllawiau diwygiedig, y meini prawf creu lleoedd newydd ac adborth a ddaeth i law trwy Ymgyrch Gwrando Llywodraeth Cymru.

Rhwng 22 Medi a 13 Hydref 2025, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad anffurfiol ar 26 ffordd a nodwyd er mwyn ystyried newid eu terfyn cyflymder yn ôl i 30mya o 20mya. Ar ôl adolygu'r holl sylwadau, ymgynghori ag Aelodau lleol a mireinio'r cynigion, mae 22 ffordd bellach yn symud yn eu blaenau i gam yr Hysbysiad Cyhoeddus statudol. Cynigir cadw terfyn cyflymder 20mya ar bedair ffordd, ac mae'r newid arfaethedig ar Heol Sardis wedi'i ddiwygio i beidio â chynnwys Lôn y Ffatri mwyach.

Cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus Statudol

Bydd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus statudol rhwng dydd Gwener 23 Ionawr a dydd Gwener 13 Chwefror (2026). Yn ystod y cyfnod yma, bydd modd i drigolion a rhanddeiliaid gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau ffurfiol.

Gweld y Cynigion

Mae modd gweld y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig drafft, a'r dogfennau cysylltiedig, yn y lleoliadau canlynol:

  • Prif Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH (yn ystod oriau swyddfa arferol)
  • Llyfrgelloedd lleol (yn ystod eu horiau agor arferol)
  • Ar-lein: www.rctcbc.gov.uk/20mya

Cyflwyno Gwrthwynebiadau neu Sylwadau

Rhaid anfon gwrthwynebiadau neu sylwadau, ynghyd â'r rhesymau drostyn nhw, mewn ysgrifen, erbyn 13 Chwefror 2026, at y:

Rheolwr Traffig

Llawr 2, 2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

neu drwy e-bost i 20mya@rctcbc.gov.uk

Fydd dim modd ystyried unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau nad ydyn nhw'n cael eu cyflwyno yn unol â'r gofynion uchod, yn rhan o'r broses statudol.

Ffyrdd y cynigir newid eu terfyn cyflymder yn ôl i 30mya

Mae'r ffyrdd canlynol wedi'u cynnwys yn y cynigion statudol er mwyn ystyried newid eu terfyn cyflymder yn ôl i 30mya:

Yr A4059 (Penderyn, i'r gogledd o'r ysgol); Yr A4059 (Penderyn, i'r de o'r ysgol); Ystad Ddiwydiannol Hirwaun; Ffordd Abertawe/Ffordd Merthyr, Hirwaun; Heol Llanwynno, Aberpennar; Ffordd Gyswllt Abercynon; Heol Sardis, Pontypridd (hyd wedi'i ddiwygio – dileu Lôn y Ffatri); Lôn Coedcae, Pont-y-clun; Heol Ynys-hir (Cylchfan Wattstown), Ynys-hir; Heol Penrhys, Tylorstown; Ffordd Hirwaun, Trewaun; Heol yr Orsaf, Pentre'r Eglwys; Heol Llwyncelyn, Porth; Cylchfan Glan-bad; Yr A4054 Heol Caerdydd (rhan ogleddol), Rhydfelen; Yr A473 Cylchfan Nant Celyn (Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys); Y B4595 Heol Talbot, Llantrisant; Y B4276 Stryd Harriet / Ffordd Llwydcoed; Heol Cwmynysminton, Llwydcoed; Yr A4233 Heol y Dwyrain (yn rhannol); Glan-bad i Barc Manwerthu Midway ac Ystad Ddiwydiannol Gelli Hirion; Heol Gwaunmeisgyn (rhan ddeheuol).

Ffyrdd y cynigir cadw eu terfyn cyflymder o 20mya

Heol Berw, Pontypridd; Lôn Brynteg, Beddau; Heol Caerdydd i'r Heol Fawr, Cross Inn; Yr A4058 Heol Ystrad, Pentre.

Gweld y gorchymyn rheoleiddio traffig drafft ar-lein a rhannu'ch adborth.