
Cefndir
Pasiodd Llywodraeth Cymru 'Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022' ar 13 Chwefror 2022. Felly, roedd yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru roi’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru ar waith o 17 Medi 2023, a chyflawnwyd hyn yn llwyddiannus gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ochr yn ochr â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru.
Cafodd y broses o gyflwyno'r ddeddfwriaeth yma effaith fawr ar rwydwaith priffyrdd yr awdurdod lleol. Cafodd terfyn cyflymder y rhan fwyaf o'n ffyrdd cyfyngedig ei leihau o 30mya i 20mya (os oes goleuadau stryd ar y ffordd).
Canllawiau diwygiedig ar gyfer eithriadau
Yn dilyn ymateb a dadl gref gan y cyhoedd, roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i'r Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ond yn cydnabod yr angen am broses rhoi canllawiau ar waith wedi'i thargedu er mwyn pennu eithriadau lle gall terfyn cyflymder rhai ffyrdd aros yn 30mya.
Mae canllawiau diwygiedig wedi cael eu datblygu ar y cyd ers hynny, ac erbyn hyn yn darparu canllawiau i'r Awdurdodau Lleol eu dilyn, er mwyn sicrhau dull systematig ar gyfer y dyfodol.
Adolygiad Llywodraeth Cymru a 'chyfnod gwrando'
Gyda'r canllawiau newydd ar waith, gofynnodd Llywodraeth Cymru i bob Awdurdod Lleol adolygu'r terfynau cyflymder 20mya yn eu hardaloedd, gan ddarparu cyllid ychwanegol i gasglu gwybodaeth a dechrau adolygu unrhyw geisiadau a gafodd eu derbyn. Rydyn ni wedi:
- Casglu Gwybodaeth - Mapio pob cais yn ddaearyddol i weld pa lwybrau y mae angen eu hadolygu gyntaf, yn seiliedig ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd.
- Adolygu a llunio argymhellion - Adolygu pob llwybr, ystyried ffactorau fel amser teithio, y newid yng nghyflymder cerbydau, hanes gwrthdrawiadau, a rhagor cyn llunio argymhelliad er mwyn i’r Cyngor ei drafod.
Yn ystod ‘cyfnod gwrando’ yn yr haf 2024, derbyniodd y Cyngor 313 o geisiadau gan drigolion i adolygu terfynau cyflymder. Cafodd yr holl adborth ei gasglu a'i gyfuno, gan arwain at bennu 87 o ffyrdd i fod yn destun proses adolygu.
Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025, cynhaliodd swyddogion asesiadau rhagarweiniol a gwaith casglu data a oedd yn berthnasol i'r canllawiau newydd – ar amseroedd teithio, cyflymder cerbydau, data gwrthdrawiadau, amgylcheddau ffyrdd a llif traffig. Cafodd panel adolygu gyfarfod ar 21 Mawrth, 2025, i drafod pob un o'r lleoliadau'n fanwl.
Ymgynghoriad ar newid terfyn cyflymder 26 ffordd yn ôl i 30mya
Mae'r panel adolygu wedi dod i'r casgliad y bydd 26 ffordd yn cael eu cyflwyno i'w hystyried, mewn perthynas â newid y terfyn cyflymder o 20mya i 30mya. Cafodd y rhain eu cynnwys mewn adroddiad i'r Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar 17 Gorffennaf 2025.
Roedd y 26 ffordd yn destun ymgynghoriad statudol, er mwyn casglu barn ac adborth y cyhoedd mewn perthynas â'r cynigion. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 22 Medi a 13 Hydref (2025). Mae'r manylion llawn i'w gweld yn erthygl mis Medi 2025 o dan adran 'Eitemau Newyddion' isod.
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, adolygodd swyddogion bob sylw a gwrthwynebiad a ddaeth i law. Roedd hyn yn cynnwys 942 o sylwadau trwy wefan AppyWay, a 26 arall trwy e-bost neu drwy'r post.
Bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad statudol mewn perthynas â’r cynigion ar gyfer 22 ffordd
Ar ôl adolygu'r holl sylwadau, ymgynghori ag Aelodau lleol a mireinio'r cynigion, symudwyd 22 ffordd yn eu blaenau i gam yr Hysbysiad Cyhoeddus statudol. Gweler eitem newyddion mis Ionawr 2026 isod, i gael rhagor o wybodaeth am y cam yma a gweld rhestr lawn o ffyrdd sydd i'w symud yn eu blaenau.
Bydd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus statudol rhwng 23 Ionawr a 13 Chwefror (2026). Yn ystod y cyfnod yma, caiff trigolion a rhanddeiliaid gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau ffurfiol.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion er mwyn cysylltu â ni yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol
Eitemau Newyddion