Mae modd i'r ffordd rydyn ni a’n pethau'n mynd o un lle i'r llall wneud gwahaniaeth mawr i’n hôl troed carbon. Yn ôl y Llywodraeth Cymru, mae 14% o allyriadau carbon y DU yn dod o drafnidiaeth. Po fwyaf y dewiswn yrru a hedfan, y mwyaf o danwydd y byddwn ni’n ei losgi, a’r mwyaf fydd ein heffaith ar yr amgylchedd. Drwy gerdded mwy, hedfan llai, rhannu car i deithio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae modd i chi arbed arian a helpu i leihau eich ôl troed carbon eich hun.
Cerdded Teithiau Byr
Mae cerdded teithiau byr yn ffordd wych o gadw'n fwy heini heb orfod camu i mewn i gampfa na thalu amdani. Mae cerdded yn cynnig llwyth o fanteision iechyd gwahanol i bobl o bob oed, gan gynnwys lleihau'r risg o glefydau'r galon, rhai mathau o ganser a diabetes math 2.
Gall fod yn wych i’n hiechyd meddwl a’n lles hefyd, gan wella ein hwyliau a lleihau straen – a'r cyfan yn helpu’r amgylchedd hefyd.
Mynd ar Eich Beic
Mae beicio'n ffordd hwyliog a fforddiadwy o fod yn fwy heini a theithio pellteroedd canolig yn gyflym, weithiau'n gyflymach na gyrru! Ar feic, mae hawl gyda chi i ddefnyddio lonydd bysiau a lonydd beicio. Gallwch saethu heibio i'r traffig a chymryd llwybrau mwy uniongyrchol na mewn car. Yn yr un modd â mathau eraill o deithio llesol fel cerdded, gall beicio helpu i wella'ch iechyd a'ch lles.
Ewch i'n tudalen teithio llesol i weld ein llwybrau beicio yma yn Rhondda Cynon Taf, ac i gael cymorth, awgrymiadau a syniadau craff ynglŷn â sut i deimlo'n fwy hyderus wrth feicio yn ein sir.
Hedfan Llai
Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wrth ein boddau'n teithio, ond mae'n werth gwybod bod hedfan yn achosi llawer o lygredd. Yn wir, y cam gorau gallwn ni ei gymryd i leihau ein hôl troed carbon personol yw hedfan un daith yn llai.
Y tro nesaf byddwch chi'n cynllunio taith, ystyriwch fynd ar wyliau ym Mhrydain Fawr neu deithio ar drên, fferi neu ar y ffordd lle bo modd. Ac os ydych chi'n hedfan, mae dewis i wrthbwyso eich allyriadau yn wirfoddol yn ffordd gymharol fforddiadwy o leihau eich effaith.
Bywyd Trydanol
Os ydych chi'n ystyried prynu neu brydlesu cerbyd newydd, beth am edrych ar fodel trydanol sy'n rhatach ac yn lanach i'w redeg? Dewch o hyd i'ch pwynt gwefru cerbydau trydan agosaf ar ein Zap Map - efallai ei fod yn agosach nag yr ydych chi'n meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio cerbyd trydan am y tro cyntaf yma yn Rhondda Cynon Taf, ewch i'n Tudalen Cerbydau Trydan neu i Dewch i Siarad am wefru Cerbydau Trydan am ddiweddariadau rheolaidd ar gerbydau trydan yma yn Rhondda Cynon Taf.
Bod yn Yrrwr Craff
Hyd yn oed os dydych chi ddim hollol barod i adael y car gartref, mae modd i chi arbed arian a charbon trwy fod yn yrrwr craff. Ceisiwch rannu car gyda'ch hoff gydweithwyr neu ffrindiau i haneru'ch allyriadau (a'ch bil tanwydd). Neu beth am roi cynnig ar gyfleuster parcio a theithio fel na fydd yn rhaid i chi boeni am barcio byth eto.
Peidiwch ag anghofio diffodd eich injan pan fydd eich car yn llonydd am ddwy funud neu fwy hefyd - byddwch chi'n arbed tanwydd a fyddwch chi ddim yn llygru'r aer o'ch cwmpas.
Defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys bws, trên neu efallai'r metro newydd (sy'n dod i Rondda Cynon Taf yn fuan) yn ffordd wych o fuddsoddi'n ariannol yn eich ardal leol ac edrych ar ôl eich iechyd ar yr un pryd. Drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus rydych chi'n cymryd un car arall oddi ar y ffordd gan osgoi tagfeydd ar y ffyrdd sy'n lleihau llygredd aer.
Mae rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yma yn Rhondda Cynon Taf ar ein tudalen deithio.