Skip to main content

Darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Prif Ffrwd ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn RhCT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awyddus i nodi barn amrywiaeth eang o'i randdeiliaid ynglŷn â'r cynigion i ehangu Dosbarthiadau Cynnal Dysgu o fewn darpariaeth addysg brif ffrwd y sir.

Bydd y cynigion yn mynd i'r afael â phwysau o ran capasiti mewn perthynas â disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sylweddol yn y Blynyddoedd Cynnar, Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol / Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn y Cyfnod Cynradd ac Anawsterau Dysgu Cymhleth yn y Cyfnod Uwchradd, lleihau nifer y trosglwyddiadau sydd eu hangen ar ddisgyblion sy'n cael mynediad i ddarpariaeth Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol / Dosbarth Cynnal Dysgu Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig yn y Cyfnod Cynradd a sicrhau bod rhagor o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu mewn Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r cynnig yma'n cael ei wneud yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 (011/2018).

Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Tachwedd 2024.
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

Y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant

Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN

 

Rhif Ffôn: 01443 744344