Skip to main content

Polisi Trwyddedu 2025 - 2030

Mae adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob Awdurdod Trwyddedu gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu i amlinellu sut y bydd yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedau ar gyfer gwerthu alcohol, darparu adloniant a darparu lluniaeth hwyr y nos.

Rhaid adnewyddu'r Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd.

Mae Cyngor RhCT ar hyn o bryd yn adolygu ei bolisi ac mae modd i unrhyw un gyflwyno sylwadau.

Polisi Trwyddedu drafft 2025 - 2030

Bydd yr holl ymatebion a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried i sicrhau bod y polisi'n parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol i'r Fwrdeistref.

Bydd pob ymateb, ynghyd â'r adroddiad diwygiedig, yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor trwyddedu. Os bydd yr adroddiad yn cael ei gefnogi, bydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn ei gymeradwyo. 

Bydd manylion personol y sawl sy'n ymateb yn cael eu cadw'n lleol a'u gwaredu yn unol â pholisi cadw a gwaredu'r Cyngor. 

Caeoedd yr ymgynghoriad ar 21 Gorffennaf 2024.

 

Tudalennau Perthnasol