Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori ar ei strategaeth drafft ar gyfer adnewyddu canol tref y Porth.
Mae'r strategaeth yn amlinellu dull holistig, cyd-drefnedig ac integredig tuag at adnewyddu canol trefi. Mae’r strategaeth yn ystyried y rôl nodedig sydd gan ganol tref y Porth wrth galon y gymuned a'i lleoliad pwysig ar gyfer gwasanaethau, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth.
Mae'r strategaeth yn amlinellu'r weledigaeth ganlynol ar gyfer y dyfodol - "Trawsnewid canol tref y Porth i fod yn dref ffyniannus a deniadol, sy'n cynnig ystod eang o gyfleoedd i ymwelwyr, trigolion a busnesau. Bydd wedi'i hangori gan Ganolfan Drafnidiaeth y Porth ac Ardal yr Orsaf wedi'i hadnewyddu."
Mae'r weledigaeth yn cael ei chefnogi gan gyfres o amcanion strategol, hynny yw, datblygu Canolfan Drafnidiaeth i wella'r cysylltedd i ganol y dref; creu'r amodau ar gyfer Ardal yr Orsaf ffyniannus; gwella pyrth allweddol canol y dref a chefnogi datblygu cyfleoedd tai a swyddi.
Rydyn ni'n awyddus i geisio barn pobl ynglŷn â’r Strategaeth drafft, felly rydyn ni'n gofyn i unigolion, grwpiau a sefydliadau am eu sylwadau. Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy gwblhau arolwg ar-lein. Fel arall, cewch chi ddod i un o'r achlysuron ymgysylltu isod; mae modd hefyd anfon eich adborth trwy e-bost i canoltrefi@rctcbc.gov.uk.
Achlysuron Wyneb yn Wyneb
Face 2 face event
Plaza'r Porth |
20 Tachwedd 2018 2pm–6.30pm |
Maes parcio Morrisons |
29 Tachwedd 2018 10am–2pm |
Canolfan Cymuned y Gilfach Goch |
4 Rhagfyr 2018 10am–12pm |
Canolfan Hamdden Tonyrefail |
4 Rhagfyr 2018 5pm-7pm |
Canolfan Cymuned Rhiw-Garn, Trebannog |
6 Rhagfyr 2018 10am-12pm |
Llyfrgell Glynrhedynog |
7 Rhagfyr 2018 10am-12pm |