Nodwch! Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben, a bydd adroddiad ar gael yn y Flwyddyn Newydd
Cyfarfu Cabinet y Cyngor ar 11 Medi i dderbyn yr adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ar argymhellion i ddarparu gwasanaethau gofal preswyl a gofal oriau dydd.
Mae'r adroddiadyn amlinellu cynigion ynglŷn â pha gartrefi gofal y dylai'r Cyngor gadw a buddsoddi ynddyn nhw a chynigion ynglŷn â'r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell pa gartrefi a ddylid cael eu datgomisiynu. Cytunodd y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad 12 wythnos arall ar y cynigion yma.
Mae'r cynnig wedi'i grynhoi a'i amlinellu yn y llyfryn yma
Mae modd gweld y meini prawf ar gyfer datblygu’r cynnig yma.
Cliciwch yma i gael map gyda rhagor o fanylion ar leoliad cartrefi gofal / cynlluniau gofal ychwanegol.
Cyfle i Ddweud eich Dweud!
Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda staff, preswylwyr a pherthnasau. Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn cynnal nifer o achlysuron 'galw heibio' cyhoeddus, lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn.
Cyfarfodydd Galw Heibio Cyhoeddus (4-8pm) |
|
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
|
7/11
|
Canolfan Hamdden Llantrisant |
19/11
|
Canolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr |
21/11 |
Mae croeso i chi siarad yn Gymraeg yn ystod y cyfarfod, rhowch wybod i ni erbyn 30/10/19 os hoffech chi wneud hynny.
|
Mae hefyd modd i chi anfon ebost aton ni – GofalPreswyl@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ysgrifennu aton ni –
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Os oes angen copïau papur o'r deunyddiau arnoch chi, neu os hoffech chi eu derbyn mewn fformat arall, ffoniwch ni ar 01443 425014.
Mae gwasanaeth eiriolaeth ar gael os oes angen, ffoniwch Age Connects Morgannwg yn uniongyrchol ar 01443 490650 neu anfonwch neges e-bost at info@acmorgannwg.org.uk
Mae'r ymgynghoriad yn cychwyn ar 30 Medi 2019 a bydd yn cau am 5pm ar 20 Rhagfyr.