Mae prosiect Diwygio Delweddau yn bosibl o ganlyniad i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio arian sydd wedi'i godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni wedi gallu llunio'r Strategaeth Dreftadaeth ddrafft yma a chynnig rhaglen weithgareddau tair blynedd o hyd sy'n canolbwyntio ar gysylltu ein cymunedau â'u treftadaeth leol.
Mae gan asedau treftadaeth y Cyngor y potensial i adfywio eu cymunedau, hybu balchder lleol a thwf economaidd cynaliadwy.
Mae'r strategaeth ddrafft hon yn ceisio creu cynnyrch treftadaeth sy'n fynegiant cynhwysol o dreftadaeth ein hardal. Cafodd y strategaeth ddrafft ei llywio gan waith ymgysylltu a gynhaliwyd gyda bron i fil o drigolion ac mae’n ceisio canolbwyntio ar wybodaeth a diddordebau lleol.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn ni'n ceisio nodi a dathlu pwysigrwydd treftadaeth RhCT a darparu ffyrdd o'i diogelu a'i gwella. Byddwn ni hefyd yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ein treftadaeth er budd y gymuned, ymwelwyr a’r economi leol.
Daw'r yr ymgynghoriad i ben 25 Medi 2024.