Skip to main content

Treftadaeth yn Rhondda Cynon Taf: Dweud eich dweud.

ALTERED IMAGES SIG3 - Colour NLHF
Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n perthyn oherwydd ein treftadaeth. Dyma sy'n rhoi ein hunaniaeth unigryw i ni, ac yn ein helpu ni i ddeall pwy ydyn ni. Mae diogelu'r gorffennol yn ein galluogi i ddysgu rhagor am y bobl a'r diwylliannau a ddaeth o’n blaenau ni. Ein hanes sy'n ein galluogi ni i ddeall moesau a thraddodiadau'r gorffennol. Fel dywedodd Dai Francis, arweinydd y glowyr, 'sut mae modd gwybod i ble rydych chi'n mynd, heb wybod ble rydych chi wedi bod?'
memorial cleaning 2
Cilfynydd War Memorial c.1950

Wedi'i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhan o brosiect Diwygio Delweddau, mae Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn mynd ati i greu Strategaeth Dreftadaeth newydd a fydd yn para 10 mlynedd (2025-2035). Mae sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn y gwaith llunio, a chynnwys barn cynifer o grwpiau cymunedol ac unigolion â phosibl, yn hanfodol bwysig. Bydd y syniadau sy'n cael eu casglu yn rhan o'r arolwg yma'n allweddol o ran llywio sut mae modd ymgysylltu â'n gorffennol dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 9 Chwefror 2024.

 

Hendrefadog Street Party, 1969