Skip to main content
Data Cymru Lets Talk RCT

Dewch i siarad: Byw yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymuno â Data Cymru i gynnal yr arolwg hwn. Rydyn ni eisiau clywed gan gynifer o bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf â phosibl er mwyn darganfod beth yw eich barn chi am ble rydych chi'n byw, beth sy'n bwysig i chi a sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor.

Bydd eich atebion a'ch barn yn cael eu rhannu gyda'r arweinwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y Cyngor, a byddant yn helpu i lunio'r ffordd rydym yn rhedeg gwasanaethau lleol ac yn gwasanaethu eich ardaloedd. Cymerwch ran, ac anogwch eich ffrindiau a'ch teulu i wneud yr un peth – po fwyaf o ymatebion a gawn, y mwyaf y gallwn ddeall ein cymunedau.


Rydym yn gweithio gyda Data Cymru ar yr arolwg hwn fel rhan o ymdrech ledled Cymru i gasglu a deall safbwyntiau pobl sy'n byw mewn gwahanol siroedd. Gofynnir y cwestiynau ar-lein, ond os byddai'n well gennych gymryd rhan all-lein gallwch ofyn am arolwg papur neu argraffu dogfen PDF – gweler y wybodaeth isod. Mae fersiwn Hawdd ei Darllen hefyd ar gael i unrhyw un a fyddai'n well ganddo hynny.

 

Gofynnwch am arolwg papur dros y FFÔN

Os byddai'n well gennych fersiwn Hawdd ei Darllen o'r arolwg, gofynnwch.

01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.

Gofynnwch am arolwg papur drwy'r POST

Os byddai'n well gennych fersiwn Hawdd ei Ddarllen o'r arolwg, gofynnwch

Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH

Y Garfan Ymgynghori

2 Llys Cadwyn

PONTYPRIDD

CF37 4TH

Argraffwch copi eich hun o'r arolwg

Arolwg am Breswylwyr

Argraffwch copi eich hun o'r arolwg Hawdd ei Ddarllen

Hawdd ei Ddeall

TBydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Atebwch yn onest ac yn gyflawn os gwelwch yn dda.

Mae'r arolwg yn agor ar 1 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 31 Awst 2025.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Data Cymru yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd Data Cymru.