Mae'r ymgynghoriad yma'n gyfle i'r cyhoedd gymryd rhan a helpu i ddatblygu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ddrafft ddiwygiedig ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT/y Cyngor). Yn rhan o'r broses ymgynghori, rydyn ni'n croesawu sylwadau gan ein partneriaid risg, gweithwyr CBSRhCT ac aelodau'r cyhoedd, ac awdurdodau cyfagos. Dyma'ch cyfle chi i ddylanwadu ar sut y bydd CBSRhCT yn rheoli'r perygl o lifogydd o ffynonellau lleol am y 6 blynedd nesaf.
Bydd y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ddrafft hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad yma'n para 6 wythnos rhwng 13 Rhagfyr2022 a 24 Lonawr 2023.
Cefndir
O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. O ganlyniad, mae dyletswydd arno i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol, h.y. Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Mae perygl llifogydd lleol yn cael ei ddiffinio fel perygl llifogydd o ddŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.
Rhaid i'r strategaeth fod yn gyson â'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, ystyried y polisi cyfredol, ac adlewyrchu dyheadau a blaenoriaethau partneriaid eraill sydd â chyfrifoldebau am Berygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ynghyd ag anghenion ehangach cymunedau, yr economi a'r amgylchedd.
Mae'r strategaeth leol yn cynnwys manylion yr amcanion a'r mesurau sydd wedi'u datblygu i amlinellu sut mae'r awdurdod yn bwriadu rheoli perygl llifogydd yn ystod cyfnod y strategaeth benodol yma a mabwysiadu dull cyfannol wrth reoli perygl llifogydd.
Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i adolygu ei Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Leol bresennol i gyd-fynd ag amcanion, mesurau a pholisïau a deddfwriaeth gysylltiedig y Strategaeth Genedlaethol.
Am ragor o wybodaeth, ac i ymweld ȃ Strategaeth bresennol RhCT ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Lleol, ewch i’r wefan yma.
E-bost
E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
Mae modd i chi hefyd...
Ysgrifennu aton ni –
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffonio:
Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,
ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.