Skip to main content
Alert Symbol
Storm Goretti: Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd AMBR am eira ac iâ. Bydd y rhybudd mewn grym o nos Iau, 8 Ionawr tan fore Gwener, 9 Ionawr. Bwriwch olwg ar gyngor pellach ar sut i baratoi ar gyfer Storm Goretti.

Ymgynghoriad – Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre

Mae asesiad cenedlaethol o beryglon cyfredol wedi nodi mai cymuned Pentre sy'n wynebu'r perygl mwyaf yng Nghymru o ran dŵr wyneb a risgiau'r cwrs dŵr cyffredin. Mae llifogydd 2020 wedi tynnu sylw pellach at yr angen i gynnal gwaith lliniaru llifogydd ym Mhentre.

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau peryglon llifogydd.

Hyd yn hyn, mae ymgynghorydd penodedig Rhondda Cynon Taf, RPS, wedi archwilio a dadansoddi nifer o opsiynau ac wedi cynnal arfarniad technegol ac economaidd. Mae'r broses yma wedi cynhyrchu opsiwn a ffefrir i'w ddatblygu ymhellach.

Pentre flood alleviation scheme
Caeoedd yr ymgynghoriad ar y 17 Gorffennaf 2023.