O ganlyniad i'r
penderfyniad allweddol a gafodd ei wneud ar 30 Mehefin 2026, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 6 wythnos ar ei Strategaeth Sector Rhentu Preifat 2026-2031. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun 6 Gorffennaf 2026 ac yn dod i ben ddydd Sul 16 Awst 2026.
Mae'r Strategaeth ddrafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid, deiliaid contractau, a rhanddeiliaid eraill i lunio a darparu tai a chefnogaeth rhentu preifat sy'n ddiogel, yn fforddiadwy ac o safon dda dros y 5 mlynedd nesaf. Gyda gostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, mae'r Strategaeth yn dibynnu ar greadigrwydd, arloesedd a gweithio mewn partneriaeth. Rhaid canolbwyntio ar ddatblygu perthynas waith ragorol gyda landlordiaid a denu buddsoddiad mewnol i sicrhau bod y cynnig Sector Rhentu Preifat yn RhCT yn ddeniadol.
Ein gweledigaeth yw “Gofalu bod y sector rhentu preifat yn RhCT yn darparu cartrefi diogel, fforddiadwy, sy'n cael eu rheoli'n dda ar sail contractau meddiannaeth cynaliadwy a hygyrch”.
Caiff y Strategaeth ei chefnogi gan y pedwar amcan a ganlyn a fydd yn llywio ei chyflawniad:
- Cynyddu'r cyflenwad o lety rhentu preifat fforddiadwy.
- Rhoi cymorth i breswylwyr gael mynediad at gontractau meddiannaeth a'u cynnal er mwyn atal digartrefedd.
- Gwella ansawdd yn y sector rhentu preifat a'r safonau rheoli hefyd.
- Cryfhau partneriaethau ac ymgysylltu i gefnogi’r sector rhentu preifat.
Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth.
Mae’r ddogfen ymgynghori i’w gweld ar y dudalen yma.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae modd gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Ar-lein
Llenwi'r holiadur ar-lein
Cysylltwch â ni
Rhadpost RUGK-EZZL-ELBH
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taf Street
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.