Penderfynodd Cabinet y Cyngor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024, gymeradwyo'r cynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob ysgol arbennig 3 i 19 ar draws RhCT, sef:
- Ysgol Arbennig Park Lane
- Ysgol Hen Felin
- Ysgol Tŷ Coch
Bydd y cynnig yn cael ei weithredu erbyn mis Medi 2026 fan bellaf.
Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol ac, felly, yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 (011/2018) mae Cabinet y Cyngor wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig.
Gellir gweld yr hysbysiad o benderfyniad
Cafodd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig a'r rhesymau sy'n sail i'r penderfyniad i'w weithredu eu hamlinellu a'u hesbonio'n llawn yn y Ddogfen Ymgynghori a ddosbarthwyd yn eang y llynedd. Yn ogystal â'r rhesymeg gadarn, dylid nodi bod cefnogaeth sylweddol i'r prosiect hwn yn ystod y cam ymgynghori.
Y casgliad felly y daeth Cabinet y Cyngor iddo wrth wneud ei benderfyniad terfynol oedd bod y manteision y gellir eu cyflawni drwy gyflawni'r cynnig hwn yn hynod gadarnhaol. Byddai'r ysgol arbennig 3 i 19 newydd yn RhCT yn cael ei hadeiladu yn unol â gofynion presennol deddfwriaeth cynllunio a rheoli adeiladu, a bydd yn gwbl hygyrch ac yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y llety yn cynnwys:
- Amgylcheddau dysgu modern, hyblyg ar gyfer pob disgybl, neuadd/ardal fwyta, ac ardaloedd addysgu a dysgu arbenigol i ddarparu ar gyfer anghenion pob disgybl.
- Pwll hydrotherapi ynghyd â therapi arall, offer arbenigol synhwyraidd ac ysgogol.
- Ardal bwrpasol o fewn yr ysgol fel y bydd y gymuned leol yn cael defnyddio'r cyfleusterau'n ddiogel, yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol.
- Mannau awyr agored gwell i gefnogi'r ystod lawn o weithgareddau'r cwricwlwm.
- Systemau rheoli traffig gan gynnwys bysiau disgyblion ar y safle, a pharcio staff ar y safle.
Bydd y prif newid yn welliant yn ansawdd darpariaeth ysgolion arbennig. Mae'r ysgol arbennig 3 i 19 newydd yn Rhondda Cynon Taf ar safle newydd yn rhoi cyfle i fwy o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol elwa o gyfleusterau addysgol ac amgylcheddau dysgu gwell.
Yn seiliedig ar y deilliannau yma, penderfynodd y Cabinet i gymeradwyo'r cynnig yma.
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant
Ysgolion yr 21ain Ganrif
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ