Skip to main content
52387-15 Treorchy Alleviation Consultation Graphic Welsh

Cynlluniau Lliniaru Llifogydd Treorci

Mae asesiad cenedlaethol o beryglon cyfredol wedi nodi mai cymuned Treorci sy'n wynebu'r trydydd perygl mwyaf yng Nghymru o ran dŵr wyneb a risgiau'r cwrs dŵr cyffredin. Mae llifogydd 2020 wedi tynnu sylw pellach at yr angen i gynnal gwaith lliniaru llifogydd yn Nhreorci.

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, i leihau peryglon llifogydd.

Hyd yn hyn, mae ymgynghorydd penodedig Rhondda Cynon Taf, Redstart, wedi archwilio a dadansoddi nifer o opsiynau ac wedi cynnal arfarniad technegol ac economaidd.  Mae'r broses yma wedi cynhyrchu opsiwn a ffefrir i'w ddatblygu ymhellach.

Yn ystod yr ymgynghoriad yma, bydd cyfle i'r holl randdeiliaid fwrw golwg ar fanylion yr opsiwn a ffefrir ar-lein, yn ogystal â mynychu sesiynau wyneb yn wyneb yn Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci ar 10 ac 11 Hydref 2023. Bydd y garfan yn darparu cyflwyniadau er mwyn rhoi crynodeb o'r cynnig ac ateb eich cwestiynau.Bydd y cyflwyniadau'n cael eu cynnal ar yr amseroedd canlynol dros y ddau ddiwrnod:

Caeoedd yr ymgynghoriad ar  23 Hydref 2023.