Skip to main content

Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert - Cam 2 a 3

Mae’r Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert (Cam 2 a 3) yn cynnig datblygu seilwaith cerdded a beicio newydd sy'n cysylltu Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn â Theras yr Afon, ac sy’n parhau ar hyd Teras yr Afon yng Nghwm Rhondda Fawr, i ddarparu llwybr cysylltu gwell rhwng Treherbert a Threorci.

Bydd y llwybr arfaethedig yn rhedeg yn gyffredinol ochr yn ochr â'r rheilffordd bresennol. Bydd yn creu llwybr teithio llesol strategol sy'n cysylltu cymunedau lleol â lleoliadau allweddol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn, gwasanaethau lleol, a'r rhwydwaith cymunedol ehangach.

Nod y cynllun yw darparu llwybr uniongyrchol oddi ar y ffordd sy'n ddiogel, cyfforddus ac yn ddeniadol i gerddwyr a beicwyr, gan integreiddio â seilwaith Teithio Llesol arfaethedig a phresennol ar draws yr ardal.

Mae cynnig Llwybr Teithio Llesol ehangach rhwng Treorci a Threherbert wedi'i rannu'n 3 cham.

  • Cam 1 (Gorsaf drenau Treherbert i Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn) wedi'i gwblhau hyd at y cam dylunio manwl. Rhaid aros am gyllid Llywodraeth Cymru i’w adeiladu.
  • Cam 2 a 3 yn y cyfnod dylunio rhagarweiniol ar hyn o bryd ac maen nhw’n cael eu datblygu gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Bydd y camau yma'n ymestyn y llwybr cysylltu teithio llesol rhwng Treherbert a Threorci, gan wella cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy ymhellach yng Nghwm Rhondda Fawr.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 21 Gorffennaf 2026.

Byddwn ni'n cynnal sesiwn galw heibio lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau i'n Swyddogion a llenwi'r arolwg: Hen Lyfrgell, Treherbert, 7 Gorffennaf, 1pm to 7pm.

Mae'r ddogfennau ymgynghori a'r deunydd ategol i'w gweld isod.

Adroddiadau Cam 2 - Opsins 1

0311-WSP-66-XX-DR-C-1005_P04

Cyffordd Ysgol Penyrenglyn i Deras yr Afon (Tudalen 1 o 5)

0311-WSP-66-XX-DR-C-1006_P04

Cyffordd Ysgol Penyrenglyn i Deras yr Afon (Tudalen 2 o 5)

0311-WSP-66-XX-DR-C-1007_P04

Cyffordd Ysgol Penyrenglyn i Deras yr Afon (Tudalen 3 o 5)

0311-WSP-66-XX-DR-C-1008_P04

Cyffordd Ysgol Penyrenglyn i Deras yr Afon (Tudalen 4 o 5)

0311-WSP-66-XX-DR-C-1009_P04

Cyffordd Ysgol Penyrenglyn i Deras yr Afon (Tudalen 5 o 5)

 

 Adroddiadau Cam 3 - Teras yr Afon

0311-WSP-66-XX-DR-C-1001_P06

Opsins 1 - Llwybr Troed / Llwybr Beiciau a RennirOddi Ar y Ffordd

0311-WSP-66-XX-DR-C-1002_P04

Opsins 2 - Llwybr Beicio Ar y Ffordd 

0311-WSP-66-XX-DR-C-1003_P05

Opsins 3 - Llwybr a Rennir gyda Stryd Unffordd (Tudalen 1 o 2)

0311-WSP-66-XX-DR-C-1004_P05

Opsins 3 - Llwybr a Rennir gyda Stryd Unffordd (Tudalen 2 o 2)