Gan adeiladu ar sylfeini ein Fframwaith Cyfranogiad 2020, mae Strategaeth Cymryd Rhan 2025 yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r strategaeth yma wedi'i diweddaru i adlewyrchu gofynion diweddaraf Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), gan sicrhau bod ein dull yn parhau i fod yn gyson â'r ddeddfwriaeth gyfredol. Bydd yn llywio ein gwaith o 2025 i 2030, ac ar yr adeg honno byddwn yn adolygu ein cynnydd ac yn datblygu'r cam nesaf.
Mae ein hymagwedd ni'n seiliedig ar weledigaeth allweddol a 7 amcan, sydd ill dau'n cysylltu'n agos â'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru.
I ddysgu mwy a gweld ein Strategaeth Cymryd Rhan lawn, cliciwch yma.
Cysylltwch â ni
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.