O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy'n nodi'r ffyrdd y mae pobl leol yn cael eu hannog i gyfranogi pan fo'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau.
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf brosesau ymgysylltu sydd wedi'u hen sefydlu ac mae wedi ymrwymo i gynnwys trigolion a rhanddeiliaid eraill yn y broses ddemocrataidd.
Nod y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus yw galluogi aelodau'r cyhoedd i ddeall yn well y broses ddemocrataidd, y rôl y gallant ei chwarae mewn democratiaeth leol ac annog pobl leol i gymryd rhan.
Helpwch ni i ddatblygu ein Strategaeth Cyfranogiad
Mae modd i chi ddarllen y strategaeth ddrafft YMA ac rydyn ni'n croesawu'ch sylwadau.
Mae'r arolwg yn dod i ben am 5pm ar 16 Mehefin 2023.
Ysgrifennwch aton ni:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffôn:
01443 425014 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.