Mae gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r rhai mwyaf helaeth a chynhwysol yng Nghymru – ac mae'n cael ei ategu gan fuddsoddiad wedi'i thargedu mewn cyfleusterau lleol. Mae'r cynlluniau diweddaraf sy'n cael eu datblygu yn Abercynon ac Ystrad yn rhan o'n buddsoddiad Trawsnewid RhCT.
Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod modd i drigolion, waeth beth fo'u hoedran, incwm neu ddyheadau o ran iechyd a lles, gael mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel, sy'n hygyrch ac yn addas.
Mae mynediad diderfyn i gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio (gan gynnwys gwersi), chwaraeon dan do fel sboncen a thenis bwrdd ac ystafelloedd iechyd ar gael drwy un cynllun aelodaeth hawdd sy'n cwmpasu'r 12 canolfan i gyd.
Cynigir aelodaeth gonsesiynol i'r rheiny sy'n:
- Derbyn budd-daliadau cymwys.
- Deiliaid cerdyn Golau Glas/Lluoedd Arfog.
Yn unol ag amcanion ehangach y Cyngor, mae Cynlluniau Aelodaeth Canol Tref a Chorfforaethol Hamdden am Oes yn helpu busnesau a sefydliadau i gefnogi gweithluoedd iachach.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda phartneriaid o asiantaethau iechyd, iechyd meddwl a chymorth i ddarparu cyfleoedd, sesiynau, hyfforddiant a rhagor. Mae'r rhain wedi'u teilwra'n arbennig i'r bobl sydd eu hangen fwyaf, yn ogystal â sesiynau nofio am ddim a gweithgareddau gwyliau ysgol.
Campfa a stiwdio ffitrwydd newydd: Canolfan Chwaraeon Abercynon
Canolfan Chwaraeon Abercynon yw'r cyfleuster diweddaraf sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith adnewyddu'r gampfa. Mae disgwyl i'r cynllun ddechrau ym mis Rhagfyr 2025, a bydd y gwaith yn ymwneud ag ailfodelu llawr gwaelod y ganolfan i greu campfa fwy gydag offer newydd, yn ogystal â stiwdio Droelli.
Lifft newydd: Canolfan Chwaraeon Rhondda
Bydd prosiect helaeth i ailosod y lifft yn llwyr yn y ganolfan 50 oed yma wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2025. Drwy fuddsoddiad, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ariannu cerbyd newydd pwrpasol a mecanweithiau cysylltiedig yn y ganolfan er mwyn sicrhau bod modd i bob cwsmer ddefnyddio'r safle.
Ystafell iechyd: Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen
Mae'r buddsoddiad yn yr ystafell iechyd boblogaidd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen wedi arwain at agor sawna newydd, yn arddull y Ffindir, i sicrhau bod cwsmeriaid sy'n mwynhau mynediad i'r ystafell iechyd yn rhan o'u haelodaeth, yn parhau i elwa ar y cyfleusterau.
Byrddau trosglwyddo campfa
Mae byrddau trosglwyddo sy'n galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i symud yn haws o'u cadeiriau i offer ffitrwydd campfa wedi'u prynu er mwyn cynnal ein hymrwymiad i fod yn gynhwysol.
Stiwdio ffitrwydd estynedig: Canolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn
Rhagor o le ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd yng nghanolfan newydd Hamdden am Oes yng nghanol Pontypridd! Mae hyn yn golygu bod rhagor o le ar gyfer dosbarthiadau gan gynnwys Troelli, Barbell, Ffitrwydd i Ddechreuwyr, dosbarthiadau dwyster isel a sesiynau Sgwrsio a Hyfforddi i'r rhai sy'n magu hyder i fod yn egnïol, mynd allan o'r tŷ a chwrdd â phobl newydd.
Gwelliannau Digidol
Mae Cardiau Aelodaeth wedi'u hymgorffori yn y rhaglen Hamdden am Oes sy'n rhad ac am ddim, ac yn hawdd ei defnyddio. Mae modd i gwsmeriaid nawr bwyso botwm i gael mynediad diderfyn i'r gampfa, nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do yn eu canolfan ddewisol - yn ogystal â chadw lle mewn dosbarthiadau a sesiynau, gwirio amserlenni a rhagor. Dim mwy o gardiau plastig na ffobiau!
Mae sgriniau digidol wedi cael eu hychwanegu ym mhob canolfan Hamdden am Oes i alluogi cwsmeriaid i weld ar unwaith weithgareddau sydd ar gael, achlysuron arbennig a rhagor.
Dysgwch fwy am gynllun aelodaeth Leisure4Life y cyngor a sut y gallai fod o fudd i chi.