Mae'r Cyngor a'i bartner, Codi Group, yn adeiladu llety gofal modern o'r radd flaenaf ar dir oddi ar Heol y Darren yn Aberpennar; mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd 2027. Bydd y ddarpariaeth yn cynnig nifer o opsiynau gofal ar un safle.
Dechreuodd y contractwr, JG Hale Group, waith cychwynnol i baratoi'r safle ym mis Ionawr 2026, yn dilyn sawl carreg filltir bwysig o ran symud y datblygiad yn ei flaen – gan gynnwys cael caniatâd cynllunio yn 2024 a gwaith clirio'r safle yn 2025.

Bydd gan y datblygiad 25 fflat Gofal Ychwanegol, 15 gwely gofal dementia, ac 8 byngalo 'Byw'n Hŷn', fel y mae modd eu gweld ar yr argraff arlunydd isod.
Mae'r cynllun ehangach yn cynnwys mynediad, parcio a gwaith tirlunio yn rhan o ffiniau'r safle, a bydd bioamrywiaeth a draenio cynaliadwy yn rhan o ddyluniad y cynllun.
Y disgwyl yw mai bach iawn fydd unrhyw darfu ar y gymuned ehangach yn ystod y cam adeiladu, er y gallai'r datblygiad olygu ychydig mwy o draffig yn lleol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan weithwyr safle'r contractwr i leihau'r effaith.
Nodi dechrau'r gwaith ar ddatblygiad gofal Aberpennar gydag ymweliad â'r safle (Mawrth 2026)
Cafodd achlysur dathlu ei gynnal ar y safle ym mis Mawrth 2026 er mwyn nodi dechrau'r gwaith adeiladu. Roedd yr Aelodau o Gabinet y Cyngor, Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE a'r Cynghorydd Gareth Caple, ymhlith yr ymwelwyr, fel y gwelwch yn y lluniau isod