Skip to main content

Gwaith yn dechrau ar safle Glyn-coch cyn dechrau adeiladu'r ysgol newydd

Glyn-coch school - updated - Copy

Mae'r gwaith cychwynnol ar baratoi'r tir er mwyn adeiladu ysgol gynradd arloesol newydd a chanolfan gymunedol ar gyfer Glyn-coch erbyn 2026, yn dechrau'r wythnos nesaf. Mae'n bosib y bydd trigolion yn sylwi ar waith paratoi ar safle'r gwaith, a fydd yn digwydd cyn y prif gyfnod adeiladu, fydd yn dechrau'r mis nesaf.

Yn sgil y prosiect cyffrous yma sy'n cael ei gyflawni gan y Cyngor drwy gyllid Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd gyda chymuned Glyn-coch ysgol newydd, gynaliadwy. Bydd drysau'r adeilad modern yma'n cael eu hagor i ddisgyblion Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg; bydd yr ysgol newydd yn gwasanaethu'r ddau ddalgylch yma. Bydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, a'r tir sydd gerllaw. Yn yr Ysgol Saesneg yma bydd meithrinfa, Dosbarthiadau Cynnal Dysgu a chyfleuster gofal plant Cymraeg ei iaith.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ddiwedd Ionawr 2025 i ddymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu un arall yn ei le a chanddo ddau lawr a chyfleusterau ar gyfer y gymuned. Yn rhan o'r datblygiad newydd yma, bydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd, maes chwaraeon ar laswellt a meysydd chwarae, gwell pwynt mynediad oddi ar Lôn y Cefn, ail fynedfa ar gyfer cerddwyr, a maes parcio ac ynddo 43 cilfach parcio a 5 cilfan gwefru ar gyfer Ceir Trydan.

Ym mis Mawrth 2023, daeth y cyhoeddiad bod y prosiect yma ymhlith yr unig 3 chynnig i gael dyfarniad 100% o ran y cyllid grant (hyd at 15 miliwn) gan Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am gynigion gan bob Awdurdod Lleol ledled Cymru; ceisiadau oedd yn arddangos dyluniad a datblygiad arloesol a chydweithredol, fyddai'n cyflenwi ysgolion gwirioneddol gynaliadwy. Felly, bydd prosiect Glyn-coch ar flaen y gad o ran datblygiadau cynaliadwy yng Nghymru.

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi nawr y bydd y gwaith paratoi yn dechrau ar y safle yn yr wythnos sy'n dechrau Ddydd Llun 31 Mawrth. Yn sgil y gwaith yma bydd modd parhau â'r prif gyfnod adeiladu, a fydd yn dechrau ddiwedd mis Ebrill 2025.

Yn rhan o'r gwaith cychwynnol fydd yn digwydd o'r wythnos nesaf ymlaen, bydd gwaith tirfesur a gosod unedau llesiant ar gyfer y contractwr. Bydd safle'r gwaith hefyd yn cael ei osod; bydd rhannau o'r ffin fetel bresennol yn cael eu dymchwel, ffensys a phalisau yn cael eu gosod o gwmpas perimedr y safle, a gatiau yn cael eu gosod ar fynedfa'r safle.

Ychydig iawn o amharu rydyn ni'n ei ddisgwyl o du safle'r gwaith; bydd hyn oll yn digwydd o fewn yr ardal waith sydd wedi'i sefydlu. Bydd cerbydau adeiladu yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r safle, ond does dim disgwyl iddyn nhw gael effaith fawr ar draffig lleol. Maes o law, bydd llythyr yn cyrraedd trigolion sy'n byw gerllaw; ynddo bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno, a bydd cyfathrebu rheolaidd ar waith wedi hynny drwy gydol cyfnod y prosiect.

Bydd dysgu yn Ysgol Craig yr Hesg yn mynd rhagddo yn ôl yr arfer, gyda gwaith adeiladu'r ysgol newydd yn digwydd ar dir gerllaw'r ysgol bresennol. Yn sgil cyfnod un y cyfnod adeiladau, bydd yr ysgol newydd wedi'i hadeiladu; yn ystod cyfnod dau, bydd yr hen adeiladau'n cael eu dymchwel at ddibenion creu elfennau allanol safle'r ysgol.

Mae disgyblion, staff ysgol a grwpiau cymunedol wedi chwarae rhan yn y broses ddylunio o'r dechrau'n deg, a bydd eu mewnbwn yn parhau i gael ei geisio – i sicrhau bod yr ysgol yn diwallu anghenion pawb. Mae Fforwm Rhanddeiliaid Cymunedol hefyd wedi'i sefydlu at ddibenion llunio'r cyfleusterau cymunedol pwrpasol fydd ar gael ar y safle; mae cynrychiolwyr lleol ac o feysydd gwasanaeth y Cyngor yn rhan o'r fforwm yma.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: "Mae dechrau'r gwaith ar y safle'n gam pwysig ymlaen o ran y gwaith adeiladu datblygiad ysgol newydd sydd ar waith yma yng Nglyn-coch. Rydw i mor falch o weld y gwaith ar yr ysgol gynradd arloesol, newydd yma'n mynd rhagddo mor dda, diolch i dros £15 miliwn o gyllid drwy ein Her Ysgolion Cynaliadwy.

"Pa well ffordd o wreiddio ein hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, na bod plant, staff a chymunedau'n helpu gyda dylunio, adeiladu a rheoli'r amgylchedd dysgu carbon sero newydd yma."

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:   "Mae'r prosiect gwych yma ar gyfer Glyn-coch wedi gwneud cynnydd ardderchog hyd yma yn 2025, gyda'r caniatâd cynllunio'n cael ei roi ym mis Ionawr, a'r gwaith cychwynnol yn dechrau ar y safle nawr. Yn sgil y datblygiad cyffrous yma, bydd amgylchedd dysgu newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Cefn ac Ygsol Gynradd Craig yr Hesg; bydd yn cymryd lle'r adeiladau hŷn ac yn yr adeilad newydd bydd modd cynnig cyfleoedd newydd i ddisgyblion o ran eu haddysg.

"Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y datblygiad yma, a fydd yn ddatblygiad fydd yn sicrhau 'Carbon Sero' pan fydd yn weithredol ac a fydd yn cael ei gyflenwi mewn modd fydd yn sicrhau safonau adeiladu gwyrdd sydd wedi'u hachredu. Yn rhan o'i ddyluniad mae technolegau fel gerddi glaw ac atebion ar sail natur ar gyfer mynd i'r afael â dŵr arwyneb. Roedden ni wedi dangos sut y bydden ni'n sicrhau'r cyraeddiadau amgylcheddol yma yn ein cynnig i'r Her Ysgolion Cynaliadwy. Mae'r Her Ysgolion Cynaliadwy yn parhau i roi cymorth i ni o hyd, ac rydyn ni'n ddiolchgar o hynny. Rhan bwysig arall o'r cynllun yw galluogi pobl leol i ddefnyddio mannau penodol ar gyfer y gymuned, grwpiau a dosbarthiadau; mae tair ystafell gymunedol y rhan o'r dyluniad.

“Prosiect Glyn-coch yw'r buddsoddiad diweddaraf mewn cyfleusterau Addysg yn lleol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Roedd yn un o blith naw prosiect gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet yn rhai fyddai'n mynd rhagddyn nhw, diolch i ymrwymiad cyllid o £414 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y chwe blynedd nesaf. Mae'r gweddill wedi eu clustnodi ar gyfer Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Gynradd Abernant, Buarth y Capel, ac ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol yng nghwm Clydach. Mae hyn yn dilyn sawl prosiect mawr sydd wedi'u cyflenwi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – cyfleusterau gwerth £79.9 miliwn ar gyfer ardal ehangach Pontypridd ac adeiladau ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn.

"Mae'n bosib bydd trigolion yn sylwi ar waith yn dechrau ar y safle yng Nglyn-coch o 31 Mawrth, ac ychydig iawn o amharu rydyn ni'n disgwyl i hyn ei gael ar y gymuned ehangach a'r diwrnod ysgol arferol yn Ysgol Gynradd Craig yr Hesg.  Diolch o flaen llaw i'r trigolion am eu cydweithrediad wrth i'r cynllun yma fynd rhagddo er mwyn i'r ysgol a chanolfan gymunedol newydd sbon yma gael ei chyflenwi erbyn 2026; man y gall Glyn-coch fod yn falch ohono."

Bydd y datblygiad yn cyrraedd safonau uwchlaw targedau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gostyngiadau mewn carbon ymgorfforedig o ran y gwaith adeiladu ei hun; mae hyn oll yn cyfrannu at ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect hefyd yn targedu Safon Passivhaus, achrediad Building With Nature, a'r Safon Adeiladu WELL – sydd â phrif ganolbwynt ar greu amgylcheddau iach ar gyfer defnyddwyr adeiladau at ddibenion atgyfnerthu llesiant.

Roedd y Cyngor hefyd yn falch o fod wedi croesawu cydweithwyr o Gyngor Gwynedd, a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, sef yr Awdurdodau Lleol eraill wnaeth sicrhau cyllid yr Her Ysgolion Cynaliadwy, i weithdy yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y gweithgareddau yma'n mynd rhagddyn nhw drwy gydol cyfnod cyflenwi'r prosiectau, a bydd yr hyn ddaw yn sgil y cydweithio yma'n cael ei ddefnyddio'n rhan o astudiaeth achos at ddibenion rhannu gwybodaeth ynghlwm â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ehangach, a byddan nhw'n cryfhau ymrwymiadau o ran datgarboneiddio ac amddiffyn yr amgylchedd.

Wedi ei bostio ar 28/03/2025