Skip to main content

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo i ddarparu ysgol ADY fodern yng Nghwm Clydach

Clydach ALN school image

Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi i'r Cyngor adeiladu ysgol 3-19 oed newydd sbon ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – dyma garreg filltir allweddol tuag at gyflawni'r datblygiad modern a chyffrous yma yn 2026.

Y llynedd, cytunodd y Cabinet i sefydlu pumed ysgol ADY y Fwrdeistref Sirol yn rhan o fuddsoddiad sy'n ymateb i gynnydd yn nifer y disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion y disgyblion. Mae'r holl opsiynau i ehangu'r pedair ysgol ADY bresennol wedi'u hystyried, a daeth y Cyngor i'r casgliad mai'r unig ddewis ymarferol arall yw adeiladu ysgol newydd i ddarparu capasiti ychwanegol. Cafodd lleoliad yr ysgol ei ystyried mewn proses arfarnu safle a phenderfynodd y Cyngor mai'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach, hen bencadlys y Cyngor, yw'r safle mwyaf addas.

Daeth y gwaith i ddymchwel y safle i ben y llynedd, a chynhaliwyd achlysur lleol yng Nghwm Clydach yn ystod mis Tachwedd 2024 er mwyn i'r gymuned gael gwybod rhagor am y cynlluniau cychwynnol. Roedd yr achlysur yma wedi helpu i lywio cais cynllunio terfynol y Cyngor.

Mewn cyfarfod ddydd Iau 6 Mawrth, rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ganiatâd i adeiladu'r ysgol a chynnal y gwaith ategol. Mae modd i'r Cyngor gadarnhau ei fod wedi penodi Morgan Sindall Ltd fel y prif gontractwr adeiladu, ac mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ar 31 Mawrth, 2025.

Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ADY cyfrwng Saesneg ar gyfer 176 o ddisgyblion, mewn adeilad deulawr modern. Bydd yn cael ei adeiladu yng nghanol y safle, wedi'i ddylunio i fodloni safonau Gweithredu'n Garbon Sero Net - gan gydymffurfio ag ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Bydd paneli solar ffotofoltäig yn cael eu gosod ar y to er mwyn darparu ynni at ddefnydd yr ysgol.

Bydd 12 ystafell ddosbarth ar y llawr gwaelod, ynghyd â ffreutur a phwll hydrotherapi. Bydd y llawr cyntaf yn cynnwys 11 ystafell ddosbarth a chanolfan les – gyda mannau aml-ddefnydd ac ardaloedd amrywiol eraill ar y ddau lawr. Bydd teras to diogel ar ochr ddeheuol yr adeilad, gyda mannau dysgu a chwarae awyr agored wedi'u lleoli o amgylch yr adeilad.

Bydd mynediad presennol y safle o'r ffordd ddienw oddi ar Ystad Ddiwydiannol Parc Hen Lofa'r Cambrian yn parhau i gael ei ddefnyddio, gyda maes parcio â 79 o leoedd (ynghyd â mannau gwefru cerbydau trydan) ar y safle. Bydd man 'gollwng/casglu', ynghyd â storfa dan do ar gyfer beiciau. Bydd yr holl goed a choetir o amgylch y safle yn cael eu cadw, tra bydd System Ddraenio Gynaliadwy yn cael ei gosod. Bydd ffens ddiogel yn cael ei chodi o amgylch ffin yr ysgol.

Ar ddydd Iau, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor ag argymhellion swyddogion i roi caniatâd cynllunio. Roedd y cais wedi'i argymell i'w gymeradwyo am nifer o resymau – byddai'r cynnig yn defnyddio safle tir llwyd a oedd wedi'i feddiannu'n flaenorol ac wedi'i gymeradwyo i’w ddatblygu, a byddai'n darparu cyfleuster ADY modern y mae mawr ei angen a fydd o fudd mawr i ddisgyblion o fewn y dalgylch. Byddai hefyd yn darparu adeilad sy'n ddeniadol ac yn fodern o ran dyluniad a fyddai dim effaith ar drigolion na diogelwch y briffordd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Rwy'n falch iawn bod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi rhoi caniatâd llawn i'r Cyngor ddarparu ysgol fodern ar gyfer disgyblion ag ADY yng Nghwm Clydach. Mae pwysau sylweddol o ran capasiti ar hyn o bryd ar draws ein pedair ysgol ADY bresennol, ac mae disgwyl i'r pwysau yma gynyddu yn y dyfodol.  Dyna pam y cytunodd y Cabinet i ddarparu pumed ysgol ADY ar gyfer y Fwrdeistref Sirol wrth i ni geisio darparu capasiti ychwanegol - ac mae penderfyniad y Pwyllgor ddydd Iau yn cynrychioli carreg filltir bwysig tuag at ddarparu'r ysgol y flwyddyn nesaf.

“Yn ogystal â'r prosiect yma, cytunodd y Cabinet ym mis Medi 2024 ar fuddsoddiad ychwanegol yn Nhonyrefail ac Ynys-y-bwl, a fydd hefyd yn ymateb i'r galw cynyddol a'r pwysau o ran capasiti am leoedd ADY. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu canolfan ategol y Blynyddoedd Cynnar newydd yn hen adeilad Canolfan Gymunedol Tonyrefail, ynghyd â chreu llety ychwanegol i ddisgyblion ym Muarth y Capel trwy ddarparu ystafelloedd dosbarth newydd ac ardaloedd ychwanegol, a hynny'n rhan o brosiect gwerth £5 miliwn.

“Bydd yr ysgol ADY newydd yng Nghwm Clydach yn hygyrch i bawb ac yn darparu ar gyfer ystod ehangach o anghenion, gan gynnig amgylchedd dysgu arloesol a deniadol yr 21ain Ganrif. Bydd y Cyngor yn derbyn cyfraniad o 75% tuag at gyfanswm costau'r prosiect trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn darparu'r ysgol newydd. Mae ein hanes rhagorol diweddar o fuddsoddi yn parhau. Rydyn ni eisoes wedi darparu adeiladau ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn – ochr yn ochr â buddsoddiad gwerth £79.9 miliwn ar draws ardal Pontypridd mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol.

“Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am brif gamau nesaf y gwaith o ddarparu'r ysgol ADY newydd. Yn dilyn penderfyniad cynllunio dydd Iau a phenodi contractwr i gyflawni gwaith y prif gam adeiladu, rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect cyffrous yma'n cael ei ddatblygu ymhellach. Bydd y Cyngor yn cyfathrebu â thrigolion wrth iddo symud ymlaen i'r cam adeiladu, a fydd yn dechrau ar y safle yng Nghwm Clydach maes o law.”

Ychwanegodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall Construction yng Nghymru: “Mae Morgan Sindall Construction yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf ar y prosiect Ysgol ADY hanfodol yma yng Nghwm Clydach. Mae sicrhau caniatâd cynllunio yn garreg filltir arwyddocaol wrth ddarparu'r cyfleuster modern, pwrpasol yma a fydd yn cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae'r ysgol newydd yma'n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol, blaengar sy'n diwallu anghenion esblygol y gymuned. Trwy drawsnewid y safle'n gyfleuster Carbon Sero Net, rydyn ni'n helpu i adeiladu seilwaith addysgol a fydd o fudd i genedlaethau i ddod."

Wedi ei bostio ar 14/03/2025