Skip to main content

Dathlu carreg filltir yng ngwaith adeiladu ysgol newydd Cwm Clydach

Clydach 1

Roedd disgyblion Ysgol Hen Felin ymhlith grŵp o ymwelwyr â safle'r Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach ddydd Iau, wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf. Dathlodd y plant garreg filltir bwysig yn y cam adeiladu mewn ffordd Nadoligaidd – drwy lofnodi addurniadau ar gyfer coeden Nadolig a gafodd ei phlannu ar y safle!

Bydd y buddsoddiad mawr yn darparu cyfleusterau ADY cyfrwng Saesneg i 176 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed. Bydd y datblygiad yn ymateb i'r nifer cynyddol o ddisgyblion ag ADY yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â chymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion a'r pwysau o ran lleoedd i ddisgyblion yn y pedair ysgol ADY bresennol. Bydd gan yr adeilad modern 23 o ystafelloedd dosbarth ynghyd â phwll hydrotherapi, canolfan les, a mannau eraill. Dysgwch ragor ar ein gwefan.

Croesawodd Morgan Sindall Construction, contractwr y Cyngor, ymwelwyr i'r safle adeiladu ddydd Iau, 11 Rhagfyr. Ymhlith y grŵp roedd Aelodau o Gabinet y Cyngor, y Cynghorydd Rhys Lewis a'r Cynghorydd Mark Norris; Pennaeth Gweithredol yr ysgol newydd a benodwyd yn ddiweddar, Aron Bradley; a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid.

Roedd yr ymweliad ddydd Iau yn digwydd ar yr un pryd â gwaith adeiladu pwynt uchaf yr adeilad ac, yn draddodiadol, mae cerrig milltir 'gosod carreg gopa' o'r fath yn cael eu dathlu trwy blannu coeden. Gan ein bod ni'n dathlu tymor y Nadolig, roedd yn briodol plannu coeden Nadolig! Ysgrifennodd pob ymwelydd neges o gefnogaeth ar addurn pren, tra bod y disgyblion hefyd wedi derbyn anrhegion a gafodd eu rhoi yn garedig gan Blake Morgan, rheolwr allanol y prosiect yma.

Aeth y grŵp ar daith o amgylch y safle adeiladu a chlywed yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith. Mae un rhan o'r adeilad yn dechrau siapio, gyda'r to wedi'i gwblhau a'r ffenestri'n cael eu gosod, a fydd yn galluogi gwaith mewnol i symud ymlaen cyn hir. Mae'r ail ran yn datblygu'n gyflym, gyda'r prif strwythur yn ei le a gwaith paratoi'n cael ei gynnal i osod y lloriau. Yn yr wythnosau nesaf, bydd gwaith pwysig yn cynnwys gosod y systemau gwresogi, trydan, a gwasanaethau allweddol eraill, ynghyd â pharhau i osod brics, gweithio ar y to, a gosod ffenestri.

Yn ogystal â'r prif waith adeiladu, mae Morgan Sindall Construction hefyd yn cyflawni prosiectau lleol allweddol sydd â gwerth cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar fuddion parhaol yn y gymuned.  Mae 'ysgol goedwig' newydd sbon yn cael ei chreu ym Mharc Gwledig Cwm Clydach. Bydd yr ysgol goedwig yn rhoi man newydd i bobl ifainc ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.

Mae'r contractwr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau addysgol i ymgysylltu â phobl ifainc lleol, gan gynnwys gweithgareddau yn Ysgol Hen Felin – megis sesiynau dysgu ar thema adeiladu, rhoi cipolwg ar yrfaoedd, a phrofiadau ymarferol. Ym mis Ionawr, bydd Ysgol Hen Felin hefyd yn derbyn ystafell newydd a fydd yn darparu profiadau dysgu cyffrous, a hynny o ganlyniad i gyfraniad gan y contractwr.

Mae Morgan Sindall Construction hefyd yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian ar sawl menter gymunedol sy'n cefnogi iechyd, lles a chynhwysiant, tra bod pobl ifainc o Grŵp Ieuenctid Pen-rhys yn derbyn cefnogaeth o ran cyflogadwyedd trwy hyfforddiant, datblygu sgiliau a llwybrau cyflogaeth – gyda chymorth Bluewater Recruitment a Trivallis. Yn ddiweddar fe wnaethon ni adrodd stori Keenan Moulding, sydd wedi mynd ymlaen i sicrhau ei swydd gyntaf yn y diwydiant adeiladu'n weithiwr yn rhan o ddatblygiad Cwm Clydach!

Mae gwaith adeiladu'r ysgol newydd yn elwa ar gyfraniad gwerth 75% gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â safle gwaith ein hysgol ADY newydd yng Nghwm Clydach – roedd yn wych gweld cynnydd parhaus gyda’r adeilad newydd a'r cyfleusterau ategol. Mis Awst oedd y tro olaf i ni ymweld â'r safle ac, er gwaethaf tywydd heriol yr hydref a'r gaeaf, mae'r cynnydd yn amlwg i'w weld. Mae'r datblygiad cyffrous yn dechrau siapio. Mae'r gwaith bellach wedi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad, ac roedden ni i gyd wedi dathlu'r achlysur yma yn ein hymweliad ddydd Iau.

“Roedd hefyd yn wych gweld disgyblion o Ysgol Hen Felin yn dod i weld adeilad newydd yr ysgol, ynghyd â Phennaeth Gweithredol yr ysgol newydd. Roedd pawb wedi mwynhau gweld y safle a chymryd rhan yn y dathliadau 'gosod carreg gopa', mewn ffordd Nadoligaidd! Diolch i'r contractwr, Morgan Sindall Construction, am ei ymdrechion parhaus, ac i'r swyddogion sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i wireddu prosiectau pwysig fel yr un yma.

“Mae’r Cabinet wedi cefnogi'r broses o greu ein pumed ysgol ADY er mwyn ymateb i bwysau mawr o ran capasiti, a’r rhagolygon y bydd y rhain yn cynyddu yn y dyfodol. Bydd yr ysgol newydd yn diwallu ystod eang o anghenion mewn lleoliad o'r radd flaenaf. Rydyn ni hefyd wedi ymgymryd â gwaith i gynyddu capasiti yn ein pedair ysgol ADY, ac wedi creu safle lloeren y Blynyddoedd Cynnar newydd yn hen adeilad Canolfan Cymuned Tonyrefail. Hefyd, mae datblygiad sylweddol wedi'i gynllunio ar gyfer Buarth y Capel yn Ynys-y-bwl, sy'n safle lloeren Ysgol Tŷ Coch.

“Mae ysgol ADY Cwm Clydach a buddsoddiad Buarth y Capel yn ddau o naw prosiect sy'n rhan o'n buddsoddiadau nesaf mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf – a hynny'n rhan o ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, sy'n cael ei gyflawni gyda Llywodraeth Cymru. Ymhlith hyn mae'r ysgol gynaliadwy newydd sy'n cael ei hadeiladu yng Nglyn-coch ar hyn o bryd, a chynigion ar gyfer Ysgol Llanhari ac Ysgol Cwm Rhondda, lle rydyn ni wedi penodi prif gontractwyr ar eu cyfer yn ddiweddar.”

Mae modd i rieni a gwarcheidwaid plant sydd ag ADY yn Rhondda Cynon Taf, sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ac sy'n gymwys i gael lle yn yr ysgol ADY 3-19 oed newydd yng Nghwm Clydach, gysylltu â ni nawr i gael rhagor o wybodaeth. Fodd bynnag, nodwch fod angen cymeradwyaeth trwy banel Anghenion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol i gael lle mewn ysgol ADY.  Mae modd gweld yr holl fanylion ar ein gwefan.

Wedi ei bostio ar 12/12/2025