Bydd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Cymer yn derbyn ysgol 11-19 oed cyfrwng Cymraeg newydd sbon, cwbl hygyrch, ar ei safle presennol. Bydd yn cymryd lle'r adeiladau sydd yno eisoes ac yn creu cyfleusterau o'r radd flaenaf.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu lleoedd ar gyfer 900 o ddisgyblion, gan gynnwys 150 o ddisgyblion y chweched dosbarth. Bydd yn cael ei ddarparu gyda Llywodraeth Cymru drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn rhan o fuddsoddiad ar y cyd gwerth £77.5 miliwn. Mae Kier Construction wedi'i benodi yn gontractwr.
Cafodd arddangosfa gyhoeddus ei chynnal yn yr ysgol ym mis Ionawr 2026, lle'r oedd cyfle i'r gymuned fwrw golwg ar y cynlluniau, gofyn cwestiynau, a lleisio eu barn. Roedd hyn yn rhan o ymgynghoriad cyn gwneud cais a gafodd ei gynnal yn ystod gaeaf 2025/26.
Yn ogystal â'r ysgol newydd sbon (sydd i'w gweld yn fideo'r argraff arlunydd uchod), bydd y cynlluniau yn cynnwys ardaloedd awyr agored newydd a chyfleusterau chwaraeon gwell, a fydd ar gael i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar 19 Mawrth 2026.
Buddsoddiad sylweddol wedi'i gyhoeddi ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda (Mawrth 2026)
Mae'r datblygiad yn ardal Cymer yn rhan o ymrwymiad buddsoddi gwerth £414 miliwn gyda Llywodraeth Cymru, i ddarparu naw prosiect buddsoddi mewn ysgolion newydd dros y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hefyd yn cynorthwyo amcanion a deilliannau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac yn cyfrannu at weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg.