Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru tuag at ddarparu ysgol newydd sbon ar safle Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Cymer, gan nodi'r garreg filltir fwyaf arwyddocaol hyd yma ar gyfer un o brosiectau ysgol pwysicaf y Fwrdeistref Sirol.
Mae modd i'r Cyngor gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £51,694,157 yn y prosiect drwy ei rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd y Cyngor yn buddsoddi £25,805,843, ac mae disgwyl i gyfanswm y prosiect gostio £77,500,000.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu ysgol Gymraeg 11-19 newydd sbon a chwbl hygyrch ar y safle presennol, gan ddisodli'r adeiladau presennol a chreu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer hyd at 900 o ddisgyblion (gan gynnwys 150 o ddisgyblion chweched dosbarth). Mae'r cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn cynnwys ardaloedd awyr agored newydd a chyfleusterau chwaraeon gwell, a fydd ar gael i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned.
Mae prosiect Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn un o nifer o flaenoriaethau buddsoddi sydd wedi'u cynnwys mewn ymrwymiad cyllido ar y cyd o £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Cafodd hwn ei gytuno mewn egwyddor rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'n eistedd ochr yn ochr â phrosiectau mawr eraill sydd eisoes yn cael eu cyflawni, gan gynnwys yr ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach (Ysgol Cambrian) a'r ysgol newydd hynod gynaliadwy yn ardal Glyn-coch (Ysgol Gynradd Glyn-coch). Mae disgwyl i'r ddwy ysgol yma agor yn ddiweddarach eleni.
Mae'r cyhoeddiad yma am gyllido yn hwb enfawr i brosiect a fydd yn helpu i atgyfnerthu a thyfu addysg Gymraeg yng Nghwm Rhondda, yn cefnogi uchelgeisiau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, ac yn cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef Cymraeg 2050. Mae ymgynghoriad cyhoeddus eisoes wedi'i gynnal ar y cynigion ac mae caniatâd cynllunio wedi dod i law yn ddiweddar.
Cwmni Construction Kier sy'n datblygu'r prosiect, ac mae'r dyluniad wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â'r ysgol.
Yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu newydd sbon, bydd y prosiect hefyd yn cefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru o ran sicrhau buddion i'r gymuned. Mae hynny'n golygu y bydd y buddsoddiad yn helpu i greu gwerth cymdeithasol ac economaidd ychwanegol drwy feysydd fel swyddi, prentisiaethau, hyfforddiant, ymgysylltu â'r ysgol, cyflogau teg, effaith ar yr amgylchedd, a chyfleoedd i hybu busnesau a gweithwyr lleol lle bynnag y bo modd.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Mae hyn yn newyddion gwych i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, i’w disgyblion a’i staff, ac i addysg Gymraeg yng Nghwm Rhondda. Rydyn ni'n croesawu’r buddsoddiad sylweddol yma gan Lywodraeth Cymru yn fawr iawn, a bydd yn ein helpu ni i ddarparu ysgol newydd sbon sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac yn gwireddu'r uchelgais sydd gyda ni ar gyfer ein disgyblion a’n cymunedau.
“Mae’r prosiect yn enghraifft wych o’r hyn y mae modd ei gyflawni drwy waith partneriaeth agos rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd dros nifer o flynyddoedd i drawsnewid ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf, ac mae'r buddsoddiad diweddaraf yn parhau â'r ymrwymiad cyffredin yma.
“Bydd yr ysgol newydd i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu a dysgu, yn ogystal â chynnig manteision ehangach i'r gymuned drwy ddarparu adnoddau chwaraeon gwell, cyfleusterau a chyfleoedd hygyrch sy'n cefnogi swyddi a hyfforddiant, a manteision cymunedol eraill yn ystod y gwaith datblygu.
“Mae hyn hefyd yn rhan o raglen fuddsoddi enfawr a pharhaus mewn addysg ledled y Fwrdeistref Sirol. Ers 2014, mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ar raglen heb ei hail o welliannau i ysgolion, ac mae disgwyl i gyfanswm y buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgolion newydd ledled Rhondda Cynon Taf dros y cyfnod o 20 mlynedd hyd at 2033 gyrraedd bron i £1 biliwn. Mae hynny'n lefel nodedig o fuddsoddiad yn ein pobl ifainc, ac mae'r prosiect yma'n rhan bwysig iawn o'r stori honno.”
Mae'r buddsoddiad yn amlygu ymrwymiad hirdymor y Cyngor i ddarparu amgylcheddau dysgu modern a chynaliadwy o ansawdd uchel i ddisgyblion lleol, gan atgyfnerthu cymunedau a chefnogi twf addysg Gymraeg ledled Rhondda Cynon Taf hefyd.
Ers 2014, mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi'n helaeth mewn ysgolion drwy Fand A a Band B o'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, a’r Rhaglen Dreigl Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu newydd, gyda’r buddsoddiad ar gyfer 2014-2033 bron â chyrraedd £1 biliwn. Dysgwch ragor am raglen fuddsoddi Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn ysgolion.
Wedi ei bostio ar 24/03/2026