Mae Cyngor RhCT wedi cyhoeddi nad oes angen yr adeilad(au)/dir canlynol arno bellach.
Cyn i'r Cyngor gael gwared ar yr eiddo yma ar y farchnad agored, hoffai'r Cyngor ystyried barn mentrau cymdeithasol a gwirfoddol, sefydliadau cymunedol a Chynghorau Tref a Chymuned ar draws RhCT ynglŷn ag a oes modd defnyddio'r eiddo yma fel “Ased o Werth yn y Gymuned” i gyflawni gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned ehangach a lle bo hynny'n bosibl y cyfrannu at y blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Integredig Sengl Cyngor RhCT, “Cyflawni Newid”.
Byddwn ni'n rhoi 'Cyfle Euraid 30 diwrnod' i unrhyw grwpiau cymunedol sydd am "Fynegi Diddordeb" yn y potensial o drosglwyddo prydles adeilad/adeiladau neu dir, i'r gymuned ei ddefnyddio.
Ar ôl mynegi diddordeb, ac ar sail tystiolaeth y bydd modd i'ch cynnig gyfrannu at anghenion y gymuned leol, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn y cam nesaf lle bydd gyda chi o leiaf 13 wythnos (yn ddibynnol ar faint neu raddfa'ch cynnig) i lunio Cynllun Busnes sy'n nodi'r holl gostau. Bydd raid i chi roi tystiolaeth bod eich cynnig yn diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy.
Nodwch: Mae'r broses “30 Diwrnod” yn sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp cymunedol a menter gymdeithasol a allai fod â diddordeb i fynegi diddordeb.
Os na fydd diddordeb gan y gymuned yn yr adeilad(au) a/neu dir yma, yna mae modd i'r Cyngor ystyried cadw'r ased neu gael gwared ar yr ased ar y farchnad agored.
Os ydych chi am Fynegi Diddordeb cychwynnol ynghylch yr adeilad(au)/dir canlynol, ewch ati i gwblhau'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod a'i hanfon drwy e-bost at RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk cyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi isod. Nodwch: Peidiwch â phostio unrhyw ffurflenni wedi'u llenwi i swyddfeydd y Cyngor gan fod y garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd.
Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth bellach arnoch i'ch helpu â'ch cynnig, anfonwch e-bost at Garfan Datblygu'r Gymuned y Cyngor: RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio'r Swyddogion Datblygu ar gyfer yr ardal wedi'u nodi isod. Bydd modd iddyn nhw ddarparu cyngor, cymorth a'ch cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol os oes angen.
Ardal
|
Swyddog Datblygu
|
Rhif Ffôn
|
Cwm Rhondda
|
Stephen Smith
|
07786 523656
|
Cwm Cynon
|
Alice Holloway
|
07385 370198
|
Taf-elái
|
Clair Ruddock
|
07786 523652
|
Ledled RhCT
|
Debra Hanney
|
07880 044520
|
Adeiladau / Ystafelloedd Gwag y Cyngor
Adeilad a Chyfeiriad | Ffotograff o'r Adeilad a'r Cynlluniau Llawr | Llun o'r safle | Disgrifiad / Nodiadau | Dyddiad Agor | Dyddiad Cau |
Perthcelyn Community Centre
Perthcelyn Community Centre Glamorgan St, Mountain Ash
CF45 3RJ
|
 |
Cynllun llawr Perthcelyn
|
|
Caeedig
|
|
Ysgol Babanod Rhiwgarn
Waun Wen, Trebanog, Porth, CF39 9LX
UPRN 5048
|


|
Prif Adeliad yr Ysgol
Rhiwgarn cynllun o'r Gwaelod
|
|
Caeedig |
|
Canolfan Addysg Gymuned Treherbert Stryd Horeb Treorci Rhondda Cynon Taf CF42 6RU |
 |
|
|
Caeedig |
|
Canolfan y Blynyddoedd Cynnar, Ynyscynon Stryd yr Eglwys Llwynypia Tonypandy Rhondda Cynon Taf CF40 2ND |
  |
|
|
Caeedig |
|