Menter Llywodraeth Cymru sy’n darparu cynhyrchion hylendid benywaidd i'r rhai sy'n wynebu rhwystr ariannol neu emosiynol yw’r Grant Hylendid Benywaidd mewn Cymunedau
Gwybodaeth Allweddol:
Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol sydd â'r gallu i storio cynhyrchion ac sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i'r rhai a fydd yn elwa ohonyn nhw.
Bydd cynnyrch y mae modd ei ailddefnyddio yn cyfrif am 50% o’r eitemau sy’n cael eu darparu i’r grwpiau, a nwyddau y mae’n rhaid eu taflu’n fydd y 50% arall, er mwyn cadw at yr agenda Newid Hinsawdd.
Os ydych chi'n unigolyn sydd angen cynhyrchion Hylendid Benywaidd neu'n grŵp sy'n dymuno derbyn rhywfaint o stoc, cysylltwch ag aelod o'n carfan neu e-bostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk