Skip to main content

Grant Cymorth Bwyd RhCT

Nodwch: Mae'r Grant Cymorth Bwyd bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.      
Mae'r Gronfa Cymorth Bwyd wedi'i sefydlu i ddarparu adnoddau i fanciau bwyd a phrosiectau cymorth bwyd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod pandemig Covid-19.

Gwybodaeth Allweddol:

Mae'r grant ar gael i sefydliadau sydd/fydd yn:

  • Rhoi Cymorth Bwyd Uniongyrchol i drigolion RhCT

Mae modd i'r Gronfa Cymorth Bwyd roi cymorth i'ch sefydliad gyda:

  • Costau bwyd
  • Costau eraill sydd ddim yn ymwneud â staffio sy'n cefnogi darparu bwyd i drigolion.

Mae grantiau o hyd at £500 ar gael.

(Mae modd ystyried mwy nag un cais - hyd at 3 - yn dibynnu ar y galw. Yn y lle cyntaf, dim ond un cais fesul pob sefydliad fydd yn cael ei ystyried hyd at ddiwedd mis Rhagfyr. Os ydych chi'n cyflwyno mwy nag un cais, nodwch flaenoriaeth y rhain yn glir.)

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad ei gais wrth i ni geisio sicrhau tegwch ledled y sir, yn ddaearyddol.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425368 neu ebostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk.