Skip to main content

Cofiwch adnewyddu'ch trwydded parth parcio preswyl

parking permit renew WELSH

Dyma atgoffa preswylwyr sy'n byw mewn parth parcio i breswylwyr i adnewyddu eu trwyddedau parcio blynyddol cyn y dyddiad dod i ben cyfredol, sef 31 Mawrth, 2023. Bellach mae modd cwblhau'r broses adnewyddu ymlaen llaw.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi tua 3,000 o drwyddedau bob blwyddyn i breswylwyr sy'n byw mewn parth parcio preswyl penodol. Rhaid i breswylwyr adnewyddu eu trwydded ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, a bydd pob trwydded gyfredol yn dod i ben ymhen llai na deufis. Bydd angen eu hadnewyddu cyn y dyddiad cau ddydd Gwener, 31 Mawrth, er mwyn eu defnyddio o 1 Ebrill ymlaen.

Mae parthau parcio preswyl yn ardaloedd sydd wedi'u dynodi gan y Cyngor lle byddai preswylwyr lleol yn ei chael hi'n anodd iawn parcio ger eu cartrefi pe na bai trwyddedau ar waith. Efallai mai dim ond nifer fach o leoedd sydd ar gael, neu fod cerbydau sydd ddim yn perthyn i breswylwyr yn aml yn cael eu parcio yn yr ardal leol. Mae rhestr lawn o barthau parcio RhCT ar wefan y Cyngor.

Mae'r broses o adnewyddu'r holl drwyddedau ar amser yn un sylweddol, ac felly mae'r Cyngor yn gofyn i breswylwyr wneud cais i'w hadnewyddu cyn gynted ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod y trwyddedau yn cael eu dychwelyd mewn da bryd.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i adnewyddu trwydded barcio yw drwy wefan y Cyngor – https://www.rctcbc.gov.uk/AdnewydduTrwyddedParcio Mae modd i'r broses gyfan, gan gynnwys gwneud taliad, gael ei chwblhau drwy'r wefan. Fel arall, mae modd i breswylwyr ofyn am ffurflen gais ar bapur drwy ffonio 01443 425001.

Wedi ei bostio ar 16/02/2023