Skip to main content

Cynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd ar Heol Berw i'w gynnal gyda'r nos

Berw Road

Nodwch – bydd pen gogleddol Heol Berw #Pontypridd ar gau dros nos ddwywaith yr wythnos nesaf, a hynny er mwyn gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau.

Mae'r gwaith yn cael ei gynnal gyda'r nos er mwyn lleihau aflonyddwch. Bydd yn dechrau am 7pm nos Lun a nos Fawrth (15 a 16 Ebrill) ac yn dod i ben erbyn 2am y bore wedyn. Bydd angen tywydd da i wneud y gwaith.

Mae'r ardal fydd ar gau yn dechrau tua 120 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r Bont Wen, a bydd y gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei gynnal dros tua 160 metr (yn parhau tua'r gogledd-ddwyrain).

Llwybr amgen - ewch ar hyd Heol Ynysybwl, Heol-y-mynach, Teras y Ddraenen Wen, Stryd Morgannwg, Teras Vaughan, Heol Penrhiwceibr, Heol Meisgyn, Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, yr A4059 Heol Newydd, yr A470, Cylchfan Stryd y Bont, Stryd y Bont a Heol Berw.

Mae’r ardal fydd ar gau a llwybr amgen i’w gweld ar y map canlynol.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr, ond dylai beicwyr ddod oddi ar y beic a dilyn y llwybr i gerddwyr. Bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo.

Bydd bysiau gwasanaeth cyhoeddus sy'n teithio ar y rhan yma o Heol Berw yn cael eu tywys trwy'r ardal yn ystod y gwaith.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 10/04/24