Skip to main content

Cam nesaf yr ymgynghoriad ar gyfathrebu ynghylch Rheoli Perygl Llifogydd

Flooding generic 2

Mae gan drigolion ail gyfle nawr i gyfrannu eu syniadau ar sut mae'r Cyngor yn mynd ati i gyfathrebu ar berygl llifogydd. Mae adborth o ymgynghoriad cychwynnol dros yr haf wedi helpu swyddogion i baratoi Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu. Gall trigolion weld y rhain nawr a chael dweud eu dweud, cyn iddyn nhw gael eu hystyried yn ffurfiol i'w gweithredu yn y Flwyddyn Newydd.

Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae'n gyfrifol am reoli'r risg mewn perthynas â ffynonellau llifogydd lleol o ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear. Mae ganddo ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli'r peryglon yma. Cyhoeddwyd y Strategaeth gyfredol (2024-2030) yn 2025, gyda Chynllun Gweithredu cysylltiedig a ddiweddarwyd ym mis Gorffennaf 2026 sydd bellach yn cwmpasu'r cyfnod o 2026-2028. Mae modd gweld y ddwy strategaeth hyn ar wefan y Cyngor, yma.

Mae cyfathrebu â'r cyhoedd yn elfen allweddol o waith y Cyngor yn y maes hwn – er enghraifft, i wella ymwybyddiaeth trigolion o berygl llifogydd, i sicrhau bod aelwydydd yn barod ar gyfer llifogydd, i ddatblygu cymunedau sy'n fwy gwydn rhag llifogydd, ac i gynghori a hysbysu trigolion yn ystod stormydd byw.

Ail gam yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyfathrebu  

Roedd yr ymgynghoriad cychwynnol – a gynhaliwyd o 10 Awst i 21 Medi, 2026 – yn gofyn am farn trigolion ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y gellid ei wella yn rhan o'r cyfathrebu o du'r Cyngor. At ei gilydd, derbyniodd y Cyngor 54 o ymatebion, ac mae swyddogion wedi ystyried yr adborth pwysig hwn yn llawn. 

Mae trigolion bellach wedi’u gwahodd i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad chwe wythnos ar y Strategaeth Gyfathrebu a’r Cynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd drafft, drwy wefan  Dewch i Siarad, hyd at ddydd Mercher, 6 Ionawr, 2027. 

Mae'r dudalen we yn cyflwyno crynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad cychwynnol drwy adroddiad 'Fe Ddywedoch Chi, Fe wnaethom Ni', sydd hefyd yn amlinellu sut y defnyddiwyd adborth y cyhoedd. Mae'r dudalen hefyd yn cynnwys dogfen gryno sy'n rhoi trosolwg cryno o'r strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu – ochr yn ochr â'r dogfennau llawn. Mae dogfennau allweddol eraill fel Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb drafft ac Asesiad Effaith ar y Gymraeg drafft hefyd ar gael i'w gweld yn llawn ar-lein.

Rydyn ni nawr yn gwahodd trigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill i adolygu'r dogfennau drafft a rhoi adborth. Mae arolwg wedi'i gynnwys ar dudalen we'r ymgynghoriad y mae modd ei lenwi ar-lein. Noder, mae modd gofyn am gopi papur o'r arolwg drwy'r ddolen uchod.

Bydd y fersiwn derfynol o'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu drafft yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn gynnar yn 2027.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   “Mae cyfleu gwybodaeth i drigolion yn rhan bwysig o weithgarwch y Cyngor sy’n ymwneud â Rheoli Perygl Llifogydd. Mae hyn yn cwmpasu ystod ehangach o bynciau – o rannu’r hyn rydyn ni’n ei wneud i fuddsoddi mewn cynlluniau lliniaru llifogydd, i helpu pobl i ddeall eu risg o lifogydd, y ffordd orau o amddiffyn eu heiddo, a darparu gwybodaeth gywir a chyfoes cyn, yn ystod ac ar ôl stormydd. 

“Yn ystod mis Gorffennaf, cymeradwyodd Aelodau o’r Cabinet Gynllun Gweithredu Llifogydd dwy flynedd wedi’i ddiweddaru sy’n rhoi ffocws ar helpu’r cymunedau sydd fwyaf mewn perygl – ac yn gosod blaenoriaethau a nodau sy’n realistig ac y mae modd eu cyflawni. Yna, ym mis Awst a mis Medi, ymgynghorodd swyddogion â thrigolion yn benodol ynghylch eu barn ar ein dulliau cyfathrebu – gan ofyn iddyn nhw beth sy'n effeithiol a beth sydd i'w wella. Mae adborth o'r ymgynghoriad hwn wedi helpu i baratoi Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu drafft, y gellir eu gweld a rhoi sylwadau arny nhw yn yr ymgynghoriad diweddaraf, sy'n rhedeg tan 4 Ionawr.

“Rwy’n annog pob preswylydd, busnes, grŵp a rhanddeiliad arall sydd â diddordeb i ddweud eu dweud. Bydd unrhyw ddiweddariadau i'r Strategaeth Gyfathrebu ddrafft unwaith eto yn cael eu llunio gan yr adborth a dderbyniwn. Yna bydd y Cabinet yn ei hystyried yn y Flwyddyn Newydd, gyda chais i'w rhoi ar waith yn ffurfiol.

“Yn y cyfamser, mae ein buddsoddiad sylweddol mewn lliniaru llifogydd ar draws y Fwrdeistref Sirol yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Ers 2020, mae ein rhaglen wedi cyflawni mwy na 100 o gynlluniau, gan dargedu lleoliadau sydd mewn perygl. Yn 2026/27, rydym ni wedi sicrhau mwy na £4 miliwn ar draws dwy raglen ariannu Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael eu hategu gan gyllid cyfatebol gan y Cyngor. Fel enghreifftiau diweddar, mae gwaith pwysig yn Stryd yr Aifft yn Nhrefforest ac yn Stryd Allen yn Aberpennar wedi dechrau ym mis Tachwedd eleni, tra bod cam pellach o waith yn Stryd Abertonllwyd yn Nhreherbert yn cael ei baratoi ar gyfer yr wythnosau nesaf."

Wedi ei bostio ar 25/11/2026