Bydd casgliadau gwastraff ledled Cwm Cynon a Thaf-elái yn cael eu safoni cyn bo hir i fod ochr yn ochr â'r rhai sydd wedi bod ar waith yng Nghwm Rhondda ers dros 30 mlynedd.
Mewn ymgais i gynyddu cyfraddau ailgylchu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25 ac i gael gwared ar finiau oddi ar lwybrau troed rhwng casgliadau, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn casglu bagiau du o ymyl y ffordd yn unig. Bydd hyn yn dechrau ar ddydd Llun 30 Medi.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i breswylwyr roi eu gwastraff cyffredinol allan i'w gasglu mewn DIM MWY NA THRI bag du maint safonol (hyd at tua 70L) (yn unol â'r lwfans cyfredol), BOB TAIR WYTHNOS o'r wythnos sy'n dechrau DYDD LLUN 30 MEDI 2024.
Mae modd i breswylwyr gadw a defnyddio eu bin olwynion i storio eu bagiau du tan y diwrnod casglu, ond ar y diwrnod casglu, dim ond bagiau du y dylid eu cyflwyno yn y man casglu arferol, sydd fel arfer ar ymyl y ffordd, ar yr un diwrnod ac amser casglu.
Yn dilyn y newid i gasgliadau bob tair wythnos ym mis Gorffennaf 2023 daeth yn amlwg bod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr ardaloedd hynny lle cesglir biniau ar olwynion (Cwm Cynon a Thaf-elái) a’r rhai lle cesglir bagiau du yn uniongyrchol o ymyl y ffordd (Cwm Rhondda). Mae trigolion Cwm Rhondda yn ailgylchu dros 20% yn fwy* ac yn rhoi tua 30% yn llai* o wastraff bagiau du allan.
Bydd y safoni nawr yn sicrhau:
- Bydd cyfraddau ailgylchu yn gwella ledled RhCT gyfan, fel ein bod ni'n cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% ac yn osgoi dirwyon sylweddol.
- Bydd modd i'r Cyngor ddefnyddio ei fflyd casglu gwastraff yn fwy effeithlon trwy gael cerbydau safonol ar draws y sir, gan gynnwys defnyddio cerbydau llai eraill i gasglu bagiau du os nad yw lorïau casglu mwy yn gallu mynd i'r stryd oherwydd ceir wedi parcio.
- Bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn elwa ar strydlun gwell, trwy gael gwared ar y biniau sy'n achosi rhwystrau ar bafinau rhwng casgliadau.
- Bod dim rhaid i breswylwyr lusgo na chario biniau ar olwynion drwy eu cartrefi nac i fyny ac i lawr grisiau'r ardd.
- Bydd costau is drwy gael fflyd gasglu safonol ledled RhCT.
- Bod gwasanaethau casglu gwastraff yn fwy effeithlon ar gyfer ein preswylwyr.
Bydd yr holl gasgliadau ailgylchu, gan gynnwys gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd* a bagiau porffor yn parhau i gael eu casglu’n wythnosol. Mae’r Cyngor yn annog trigolion i ddefnyddio’r holl wasanaethau wythnosol yma i sicrhau eu bod nhw'n ailgylchu cymaint ag y mae modd ac i leihau faint o wastraff bagiau du sy'n cael ei greu. Dylid casglu dros 80% o holl wastraff y cartref yn wythnosol os caiff ei ailgylchu.
Meddai Cyfarwyddwr y Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth:
“Bydd y dull casglu gwastraff safonol ar gyfer holl breswylwyr Rhondda Cynon Taf yn sicrhau bod gan BOB preswylydd yr un terfynau gwastraff. Byddai hyn yn sicrhau tegwch gan y teimlai llawer o drigolion eu bod nhw'n cael mantais annheg neu eu bod dan anfantais dros y blynyddoedd.
"Mae cyflwyno casgliadau bagiau du ar draws y Fwrdeistref Sirol yn cynnig ystod o fuddion posibl, gan gynnwys strydoedd mwy taclus gyda llai o rwystrau ar y pafin rhwng dyddiau casglu, cyfraddau ailgylchu uwch a gwasanaeth casglu gwastraff mwy effeithlon. Hefyd byddai’r cerbydau casglu gwastraff yn cael eu defnyddio’n well a byddai llai o effaith ar breswylwyr nad oes gyda nhw ddewis arall ar hyn o bryd heblaw am lusgo'u biniau drwy eu heiddo neu i fyny / i lawr grisiau gardd a.y.b., gan na ddylid cadw biniau ar lwybrau troed 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Amcangyfrifir y dylid rhoi llai nag 20% o wastraff y cartref yn eich bagiau du – mae’r rhain yn eitemau does dim modd eu hailgylchu gan gynnwys lludw glo, gwastraff anifeiliaid, ffilm blastig, hancesi papur, ffoil, ac ati.
Mae rhagor o wybodaeth am Safoni Casgliadau Gwastraff – Biniau i fagiau, ar gael yn - www.rctcbc.gov.uk/CasgluBagiauNidBiniau.
Wedi ei bostio ar 27/09/24