Skip to main content

Gwaith adnewyddu'r ffordd gerbydau a marciau ffordd wrth Gyffordd Quarter Mile

Quarter Mile 1 - Copy

Dyma roi gwybod ymlaen llaw am waith pwysig i osod wyneb newydd ar yr A4059 Cyffordd Quarter Mile yn Abercynon, dros bedwar diwrnod yn ystod gwyliau'r Pasg (22-25 Ebrill). Bydd modd i draffig trwodd ddefnyddio'r A4059 gyda goleuadau traffig dwyffordd, ond fydd y gyffordd ddim ar agor i draffig sy'n teithio i Abercynon ac oddi yno.

Bydd contractwr y Cyngor yn cynnal y gwaith, o 9am tan 3pm rhwng dydd Mawrth 22 Ebrill a dydd Gwener 25 Ebrill. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer gwyliau'r ysgol, ac y tu allan i'r oriau teithio prysuraf, er mwyn lleihau aflonyddwch. Fydd dim mesurau rheoli traffig y tu allan i oriau'r gwaith.

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd wrth y gyffordd, gan gynnwys adnewyddu llinellau a marciau lliw ar y ffordd yn y lleoliad yma. Bydd stydiau ffordd newydd hefyd yn cael eu gosod wrth y gyffordd. Bydd y gwaith yma'n cyd-fynd â phecyn o waith dros yr wythnosau nesaf ar yr A4059, o Abercynon i Gwm-bach, er mwyn adnewyddu'r llinellau gwyn ar y ffordd a gosod stydiau ffordd newydd.

Bydd goleuadau traffig dwyffordd dros dro yn cael eu defnyddio ar yr A4059 wrth Gyffordd Quarter Mile. Bydd hyn yn sicrhau bod y prif lwybr trwy Gwm Cynon yn parhau i fod ar agor, wrth alluogi'r gweithlu i fwrw ymlaen â'r gwaith mewn amgylchedd diogel.

Bydd ffordd y B4275 ar gau dros dro, yn uniongyrchol o Gyffordd Quarter Mile i'w chyffordd o Drem y Parc.  Mae hyn yn golygu na fydd mynediad i Abercynon, nac oddi yno, ar hyd y gyffordd yn ystod oriau'r gwaith. Dyma fap o'r ardal a fydd ar gau a llwybr amgen.

Y llwybr amgen fydd ar hyd yr A4059, (yr A470) Cylchfan Abercynon, yr A472, Cylchfan Fiddler's Elbow, yr A4054 a'r B4275 – neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall. Bydd mynediad ar gael i'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr ond fydd dim mynediad ar gael i eiddo. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Cafodd y cynllun gosod wyneb newydd yma ei nodi yn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd 2025/26, gyda dyraniad gwerth £80,000. Mae'r Rhaglen yn darparu buddsoddiad gwerth £6.94 miliwn ar gyfer ffyrdd cerbydau – gan gynnwys 78 o gynlluniau gosod wyneb newydd llawn.

Mae gwaith gosod wyneb newydd wrth Gyffordd Quarter Mile hefyd yn elfen bwysig o welliannau diogelwch ar y ffyrdd ehangach sydd wrthi'n cael eu rhoi ar waith ar hyd llwybr yr A4059 yng Nghwm Cynon, gyda chymorth Go Safe. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau terfynau cyflymder presennol a chyflwyno system camerâu cyflymder cyfartalog, mewn ymateb i gynnydd amlwg yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

Wedi ei bostio ar 10/04/2025