Bydd mesurau pwysig i hybu a gwella diogelwch yn cael eu cyflwyno ar yr A4059 rhwng Cylchfan Abercynon a Chwm-bach. Mae hyn yn dilyn adolygiad o amodau traffig ar hyd y llwybr yma, a gynhaliwyd gan swyddogion mewn ymateb i gynnydd mewn gwrthdrawiadau difrifol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.
Amcangyfrifir bod y newidiadau a fydd yn gwella diogelwch ond yn ychwanegu 25 eiliad ar gyfartaledd at daith i'r naill gyfeiriad rhwng Cwm-bach ac Abercynon, yn dibynnu ar yr amser o'r dydd.
Ym mis Rhagfyr 2024, cyhoeddodd y Cyngor fod yr adolygiad wedi'i gynnal a bod swyddogion yn datblygu cynigion diogelwch ar rannau allweddol o'r A4059 – y briffordd trwy Gwm Cynon. Ers hynny mae hysbysiadau cyhoeddus wedi’u cyhoeddi sy’n manylu ar y cynigion ar gyfer newid. Mae proses y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi ei chwblhau'n ddiweddar.
Cafodd yr adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd ei lywio gan y data diweddaraf am wrthdrawiadau ac anafiadau ynghyd â chyflymder traffig ar y ffyrdd. Bu nifer o wrthdrawiadau difrifol gan gynnwys rhai angheuol dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd cyflymder yn ffactor a gyfrannodd at gyfran uchel o'r damweiniau hyn.
Mae'r Cyngor wedi comisiynu cyfrifyddion traffig awtomatig, sy'n cofnodi cyflymder modurwyr ar rannau 'Terfyn Cyflymder Cenedlaethol' yr A4059 dros gyfnod o saith diwrnod. Cyflymder cyfartalog modurwyr oedd 48mya, sy'n is na'r terfyn cyflymder. Serch hynny, roedd 15 achos lle'r oedd modurwyr yn teithio ar gyflymder o 100mya neu uwch, gydag un cerbyd wedi'i nodi yn teithio ar gyflymder o 127mya.
Newidiadau i'w gweithredu ar yr A4059 dros yr wythnosau nesaf
Yn gyffredinol, bydd lleihad o 10mya yn y cyfyngiad cyflymder o'i gymharu â lefelau presennol. Bydd yr A4059 o Abercynon i Aberpennar yn troi’n 50mya (Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar hyn o bryd), gyda rhan fyrrach yn 40mya wrth y Gyffordd Chwarter Milltir (50mya ar hyn o bryd). Bydd y rhan o'r ffordd rhwng Ysgol Gyfun Aberpennar a Chwm-bach yn dod 50mya (Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar hyn o bryd). Fydd y rhannau 30mya a 40mya drwy Aberpennar ddim yn newid. Bydd arwyddion clir ar gyfer y parthau yma.
Yn ogystal â chyflwyno'r terfyn cyflymder newydd o 40mya, bydd y Cyngor yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd gerbydau ac yn adnewyddu'r arwyneb lliw ar y Gyffordd Chwarter Milltir. Yn ystod yr adolygiad, archwiliodd swyddogion y posibilrwydd o adeiladu cylchfan yn y lleoliad yma, ond mae modelu traffig wedi nodi y byddai'r mesur yma'n achosi tagfeydd traffig difrifol ar adegau prysur oherwydd llif traffig anwastad.
Mae gwelliannau arfaethedig pellach yn cynnwys gosod arwynebau lliw ar ragor o’r cyffyrdd ar hyd llwybr yr A4059 i godi ymwybyddiaeth a gwella diogelwch, ac adnewyddu llygaid cathod o Gylchfan Abercynon i Gylchfan Ysbyty Cwm Cynon.
I gyd-fynd â'r newidiadau i derfynau cyflymder, bydd system camera cyflymder cyfartalog yn dechrau monitro cyflymder cerbydau ar hyd y llwybr. Bydd yn cael ei osod mewn dwy ran – Cylchfan Abercynon i Aberpennar (ger cyffordd y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm), ac Ysgol Gyfun Aberpennar i Gwm-bach (ger yr orsaf betrol). Bwriad y rhain yw mynd i’r afael â’r modurwyr hynny sy’n torri’r terfyn cyflymder yn sylweddol, a bydden nhw'n cael eu gosod rhywbryd yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : “Mae trigolion yn cael eu hatgoffa am y newidiadau parhaol, allweddol yma ar yr A4059 rhwng Cylchfan Abercynon a Chwm-bach – sy’n cael eu cyflwyno yn yr wythnosau nesaf i hybu diogelwch ar y ffyrdd. Bydd modurwyr yn sylwi ar offer camera cyflymder cyfartalog newydd ac arwyddion yn cael eu gosod yn fuan, a bydd y terfynau cyflymder newydd sy'n cael eu cyflwyno i'w gweld yn amlwg.
“Mae’r mesurau yma wedi’u hanelu at dargedu’r lleiafrif o fodurwyr sy’n dewis teithio ar gyflymderau peryglus ar y llwybr yma, yn hytrach na’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ffyrdd a fydd ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau. Mewn gwirionedd, gwelodd ein hymarfer monitro cyflymder diweddar gyflymder cyfartalog o 48mya ar hyd y llwybr yma. Mae hyn is na’r terfyn cyflymder o 50mya a gyflwynwyd. Bydd y parth 50mya presennol o amgylch Cyffordd Chwarter Milltir yn lleihau i 40mya, gan fod cynllun y ffordd yn heriol i fodurwyr sy'n troi i'r dde i fynd ar yr A4059.
“Yn seiliedig ar fonitro blaenorol, amcangyfrifir bydd tua 85% o yrwyr ddim yn gweld unrhyw effaith ar eu cyflymder gyrru presennol. Yn ogystal, amcangyfrifir y bydd siwrneiau ar yr A4059 dim ond yn cymryd 25 eiliad yn hirach ar gyfartaledd i'r naill gyfeiriad dros yr holl hyd o Gwmbach i Abercynon yn dilyn y newidiadau – tra bydd y buddion diogelwch yn sylweddol.
“Diolch i ddefnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad wrth i’r mesurau pwysig yma a gefnogir gan Heddlu De Cymru a GanBwyll gael eu cyflwyno. Eu nod yw sicrhau bod pob modurwr yn teithio ar gyflymder cyfrifol, er budd y miloedd o bobl sy’n defnyddio’r llwybr rhydwelïol yma'n rheolaidd. Byddwch yn ofalus iawn wrth ddod i arfer â'r trefniadau newydd.”
Dywedodd llefarydd ar ran GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru: “Prif amcan GanBwyll yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb. Mewn lleoliadau â niferoedd uchel o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol, mae'n briodol inni weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod priffyrdd lleol, gwasanaeth yr heddlu, ac asiantaethau eraill, i gyflawni gwelliannau diogelwch sylweddol.
“Rydyn ni'n llwyr gefnogi ymdrechion Cyngor Rhondda Cynon Taf i wneud y ffordd yn fwy diogel. Rydyn ni'n hyderus y bydd y mesurau yma'n atal pobl rhag gyrru ar gyflymder peryglus ac yn lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.”
Wedi ei bostio ar 24/02/2025