Skip to main content

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025

Council-Christmas-Closure-SOCIAL-green-2025-WELSH

Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl drigolion yn Rhondda Cynon Taf, ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol.

Bydd y Cyngor, gan gynnwys y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid, AR GAU o 5pm ddydd Mawrth 23 Rhagfyr (2025) tan 9am ddydd Gwener 2 Ionawr (2026).

Mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth ar wahân i argyfyngau y tu allan i oriau'r swyddfa a gwasanaethau hanfodol cyfyngedig.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwasanaethau sydd ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ewch i'r dudalen yma.

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Fodd bynnag, rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Gwener 2 Ionawr (2026).

Wedi ei bostio ar 23/12/2025