Skip to main content

Carfan y Cyngor yn Darparu Llinell Fywyd i Drigolion Rhondda Cynon Taf

Untitled design (62)

Bydd carfan ymroddedig o staff Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio drwy'r dydd a'r nos dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd – fel maen nhw'n ei wneud bob dydd – i gefnogi a thawelu meddyliau dros 4,000 o bobl oedrannus a phobl agored i niwed. Mae'r garfan Llinell Fywyd yn cadw cysylltiad â'r bobl sydd ei hangen fwyaf – does dim ond angen pwyso botwm i geisio cymorth unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Ac yntau wedi'u lleoli mewn canolfan reoli 24 awr, mae aelodau'r garfan yn defnyddio blychau cyfathrebu dwyffordd wedi'u gosod yng nghartrefi eu cwsmeriaid i siarad yn uniongyrchol â nhw os caiff y botwm argyfwng ei wasgu, gan gynnig cymorth, ymateb i anghenion a sicrhau bod y rhai maen nhw'n poeni amdanyn nhw’n iawn. Maen nhw'n anfon Ymatebwyr Symudol Cyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i gartrefi pobl sydd wedi cwympo ac yn methu codi'n ôl. Mae'r ymatebwyr hyfforddedig yma wrth law o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn ac yn defnyddio offer arbenigol i helpu pobl i godi o'r llawr yn ddiogel.

Eleni yn unig, maen nhw wedi cynorthwyo dros 1,200 o bobl sydd wedi cwympo ac yn methu â chodi, gan leihau'r galw ar y gwasanaethau brys AC yn lleihau'r amser y mae pobl yn gorwedd ar y llawr yn aros am gymorth. Po hiraf y mae rhywun yn gorwedd ar ôl cwympo, y mwyaf yw ei risg o gael ei dderbyn i'r ysbyty a niwed hirdymor i'w iechyd/lesiant.

Mae Ymatebwyr Symudol hefyd yn ymweld â'r cwsmeriaid y mae gweithredwyr yn poeni amdanyn nhw, fel y rhai sy'n pwyso eu botwm ond yna ddim yn ymateb, neu'r rhai y maen nhw wedi siarad â nhw sy'n ymddangos yn sâl neu mewn anhawster.

Mae gweithredwyr yn adnabod anghenion cwsmeriaid yn dda ac yn aml mae modd iddyn nhw ddweud drwy siarad â nhw os oes rhywbeth o'i le. Dydyn nhw ddim yn aros i rybudd gael ei anfon chwaith – maen nhw’n cysylltu’n rheolaidd â phobl ac yn dymuno Pen-blwydd Hapus iddyn nhw bob blwyddyn!

Mae modd i'r Llinell Fywyd hefyd fonitro diogelwch person yn ei gartref o bell, trwy larymau Teleofal a synwyryddion sy'n seinio os yw rhywun yn cwympo, yn cael trawiad epileptig neu'n mynd i mewn i ardal o'u cartref a allai beri perygl, megis top y grisiau.

Mae yna synwyryddion hefyd i anfon rhybuddion os yw hob neu dap nwy yn cael ei adael ymlaen, neu os caiff y drws ei agor, sy'n arbennig o bwysig ar gyfer diogelwch y rhai sydd â chlefyd Alzheimer, dementia neu broblemau iechyd meddwl.

Mae'r synwyryddion a'r larymau yma'n rhybuddio staff y garfan Llinell Fywyd, neu gynhaliwr, am rywun sydd angen help hyd yn oed pan nad yw'r person ei hun yn effro i'r ffaith ei fod mewn perygl neu angen cymorth. Ar draws pob haen o wasanaeth Llinell Fywyd, mae 4,000 o bobl oedrannus neu agored i niwed yn cael cymorth i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol ac mae eu hanwyliaid yn cael sicrwydd bod cymorth wrth law. Pobl megis Dave, sy'n byw yn Nhonypandy gyda'i wraig, Sue.

Cafodd Dave ddiagnosis o Glefyd Parkinson chwe blynedd yn ôl ac mae'n aml yn cwympo, yn enwedig yn y nos. Sue yw ei brif gynhaliwr ond does dim modd iddi ei helpu pan fydd yn cwympo.

Mae Dave yn gwisgo botwm argyfwng ar fand llawes i'w wasgu os yw'n cwympo, fel bod modd iddo gysylltu â'r garfan Llinell Fywyd yn uniongyrchol. Mae gyda fe synhwyrydd ar fand llawes hefyd sy'n rhybuddio gweithredwyr yn awtomatig os yw'n gwneud symudiad cwympo, fel bod modd anfon cymorth os nad oes modd i Dave anfon rhybudd.

O fewn munudau, mae ymatebwyr symudol yn ei gartref, gan ddefnyddio sêff allweddi a gaiff ei ddarparu yn rhan o'r gwasanaeth Llinell Fywyd, i gael mynediad a'i symud yn ofalus ac yn ddiogel i gadair, gan ddefnyddio'r offer arbenigol.

Mae ymatebwyr symudol yn gwasanaethu'r fwrdeistref sirol gyfan ac yn ymateb i alwadau fel y rhai gan Dave, lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Os yw rhywun wedi'i anafu, bydd y gwasanaethau brys arferol yn cael eu galw.

Mae'r gwasanaeth Llinell Fywyd yn cefnogi Dave i aros yn ei gartref teuluol ac mae'r amddiffyniad y mae'n ei gynnig iddo yn rhyddhad enfawr i'w deulu, gan gynnwys ei fab Steve.

Meddai Steve:

Cafodd Dad ddiagnosis o glefyd Parkinson chwe blynedd yn ôl ac rydyn ni'n gofalu amdano gartref. Mam yw ei brif gynhaliwr, ond cafodd gwymp gwael yn gynharach eleni ac roedd yn yr ysbyty am fisoedd.

Rydyn ni gyda Dad mor aml ag y mae modd inni fod ac mae gyda ni gamerâu cartref wedi’u gosod fel bod modd i ni gadw llygad arno drwy ap ffôn symudol. Roedden ni hefyd wedi cael dad i wisgo ei ffôn symudol o amgylch ei wddf ar gortyn gwddf fel y byddai modd iddo ffonio am help pe bai ei angen arno. Roedd wir yn destun pryder.

Mae'r gwasanaeth Llinell Fywyd wedi newid ein bywydau. Mae yno bob amser. Nid yn unig y mae modd i dad siarad â rhywun drwy wasgu botwm, rwy'n gwybod bod yr Ymatebwyr Symudol yn cael eu hanfon yn awtomatig os oes angen help i godi, gan ei ganiatáu i barhau â'i ddiwrnod.

Roedden ni’n poeni, fel eraill o bosibl, y gallai’r bandiau llawes a’r synwyryddion beryglu ei annibyniaeth, ond mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae'n welliant i’w fywyd. Mae'n amddiffyniad ac yn gefnogaeth i dad ac yn dawelwch meddwl i weddill y teulu. Rydw i mor ddiolchgar.

Roedd Dave a'r ymatebwyr symudol, Leanne a Celyn, yn falch o ddangos sut mae'n cael ei helpu i fyny ar ôl cwympo i ddangos i bobl eraill sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae llawer o bobl eisiau aros yn eu cartrefi eu hunain, yn ddiogel ac yn annibynnol ac mae'r gwasanaeth Llinell Fywyd – ynghyd ag ymroddiad ei staff – yn eu helpu i wneud hynny.

Mae'r gwasanaeth Llinell Fywyd ar agor i bawb. Mae modd i chi ymuno ar-lein ac elwa o lawer o'r gwasanaeth, gan gynnwys ymateb 24 awr, eich hun neu ar ran anwylyd.

Mae gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda ni i wneud atgyfeiriadau a chynnal asesiadau ar gyfer y synwyryddion, y larymau a’r gwasanaethau mwy arbenigol fel bod modd i bobl gael cymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion.

Fyddai dim o’r gofal, y gefnogaeth, yr ymateb na’r sicrwydd yma sydd ar gael drwy’r amser yn bosibl heb y staff ymroddedig sy’n gweithio o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn, i ymateb pan fydd angen cymorth ar drigolion a bod yno, bob awr ac ym mhob tywydd. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonyn nhw.

Mae modd i unrhyw un sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ymuno â'r gwasanaeth Llinell Fywyd am ffi gosod untro a ffi wythnosol fach a derbyn y cymorth o fore gwyn tan nos bob diwrnod o'r flwyddyn, y blwch cyfathrebu, y botwm argyfwng, y sêff allweddi a'r gwasanaeth Ymatebydd Symudol.

Caiff mesurau cymorth ychwanegol y gwasanaeth Llinell Fywyd, megis y larymau cwympo neu drawiad epileptig, synwyryddion drws a llawr, ac ati, eu defnyddio yn ôl yr angen. Mae modd i chi neu eich anwyliaid wneud cais am y cynllun yn uniongyrchol neu drwy weithiwr gofal proffesiynol a bydd y gwasanaeth yn seiliedig ar asesiad proffesiynol.

Dysgwch ragor am y gwasanaeth Llinell Fywyd, gan gynnwys sut i wneud cais a ffioedd gwasanaeth, yma. 

 

Wedi ei bostio ar 22/12/2025