Skip to main content

Gwaith draenio a llystyfiant ar safleoedd tomenni Ynys-y-bwl yn ystod mis Ionawr

Lady Windsor

Dyma roi rhybudd i drigolion Ynys-y-bwl am waith cynnal a chadw a fydd yn mynd rhagddo yn y Flwyddyn Newydd, ar safleoedd tomenni hen Lofa Lady Windsor.

Mae'r pedwar safle wrth ymyl ei gilydd, wedi'u lleoli i'r dwyrain o'r B4273 Heol Newydd – a bydd gwaith ar draws yr ardal yn dechrau o ddydd Mercher, 7 Ionawr (2026).

Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â silt o fewn ac o amgylch seilwaith draenio, yn ogystal ag asedau eraill ar draws y pedwar safle.

Yn ogystal â hynny, bydd llystyfiant lleol yn cael ei glirio, a fydd yn gwella mynediad ar gyfer cynnal archwiliadau a gwaith monitro tomenni arferol yn y dyfodol.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn ymgymryd â'r gwaith ochr yn ochr â'r isgontractwr Dee Plant, ac mae disgwyl i'r cynllun bara tua phythefnos.

Mae disgwyl y bydd ychydig o aflonyddwch, a gallai fod rhywfaint o aflonyddwch sŵn o weithgarwch ar y safle gwaith.

Yn ogystal â hynny, bydd cerbydau'n cyrraedd y safle drwy Faes Windsor a Heol Celynnen, felly efallai y byddwch chi'n sylwi ar gynnydd mewn traffig yn ystod oriau gwaith (8am-5pm).

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru – mae'r Cyngor wedi sicrhau £11.4 miliwn yn rhan o'r grant i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26.

Diolch ymlaen llaw i gymuned Ynys-y-bwl am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 23/12/2025