Skip to main content

Cam cyntaf cynllun atgyweirio wal yn Nhonypandy i ddechrau

Llwynypia grid

Bydd y Cyngor yn cynnal cyfres o atgyweiriadau pwysig ar wal derfyn yn Heol Llwynypia, Tonypandy, cyn bo hir. Mae'r wal derfyn yn cynnal yr ardd henebion uwchlaw.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Rhagfyr, ac yn cael ei rannu'n ddau gam gwaith. Bydd y cynllun cyffredinol yn cael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2026.

Bydd gwaith o'r wythnos nesaf ymlaen, hyd at y Nadolig, yn cynnwys ailadeiladu'r rhan ddeheuol o'r wal a'i hwyneb blaen. Mae hyn yn cynrychioli cam un y gwaith cyffredinol. Bydd cam dau'n dilyn o fis Ionawr 2026, er mwyn ailadeiladu rhan ogleddol y wal a'r grisiau.

Fydd dim angen unrhyw fesurau rheoli traffig – bydd Heol Llwynypia yn parhau i fod ar agor a does dim disgwyl y bydd unrhyw drefniadau cau ffyrdd/lonydd.

Bydd angen cau llwybrau troed ger yr ardaloedd gwaith yn ystod cam un a dau, a bydd arwyddion y llwybrau amgen i gerddwyr i'w gweld. Bydd angen cau cilfachau parcio ger pob ardal waith, er mwyn sicrhau gwelededd a diogelwch cerddwyr.

Mae'r gwaith yma'n cael ei gynnal trwy ddefnyddio cyllideb refeniw'r Cyngor, a Hammond ECS Ltd yw'r contractwr.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 03/12/2025