Skip to main content

Gwella dull bilio digidol Treth y Cyngor

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ei gwneud hi'n haws i drigolion fwrw golwg ar eu biliau Treth y Cyngor ar-lein, heb yr angen i gofrestru ar gyfer e-filio.

Mae'r gwelliant yn golygu y bydd modd i drigolion sy'n derbyn biliau papur ar hyn o bryd gael mynediad at eu bil yn gyflym ac yn ddiogel ar-lein, drwy ddileu'r angen i greu cyfrif ar-lein neu ddewis defnyddio gwasanaethau e-filio traddodiadol.

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor gyfeiriadau e-bost ar gyfer mwy na 30,000 o dalwyr Treth y Cyngor nad ydyn nhw'n derbyn eu biliau'n electronig ar hyn o bryd. Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn cysylltu â'r trigolion yma i'w hysbysu am y newid sydd ar ddod: bydd biliau Treth y Cyngor yn y dyfodol yn cael eu hanfon drwy e-bost yn hytrach na thrwy'r post.

Yn bwysicach, ni fydd unrhyw gwsmer yn cael ei newid yn awtomatig heb gyfathrebu ymlaen llaw. Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at drigolion ymlaen llaw i esbonio beth mae'r newid yn ei olygu, pa gamau gweithredu – os o gwbl – sydd eu hangen, a sut y bydd cymorth ar gael i'r rhai sydd ei angen.

Mae'r newidiadau yma'n rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i ddod yn sefydliad mwy digidol ac effeithlon. Bydd symud i ffwrdd o filio papur yn lleihau'r defnydd o bapur, argraffu, postio a phecynnu yn sylweddol, gan helpu i leihau costau i'r pwrs cyhoeddus.

Bydd trigolion hefyd yn elwa ar gael biliau’n cael eu danfon yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy, gan osgoi oedi sy’n gysylltiedig â gwasanaethau post a sicrhau bod gwybodaeth bwysig yn cael ei derbyn mewn modd amserol.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Dyma gam cadarnhaol ymlaen i drigolion a’r Cyngor fel ei gilydd. Drwy ddefnyddio dulliau digidol yn fwy effeithiol, mae modd i ni ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at eu gwybodaeth, lleihau costau diangen, a chwarae ein rhan wrth gefnogi gwelliant y Cyngor mewn perthynas â gwasanaethau digidol. Bydd cyfathrebu clir â thrigolion yn rhan hollbwysig lwyddiant y newid yma, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn deall beth sy'n digwydd a pham.”

Bydd biliau papur yn parhau i fod ar gael i drigolion nad oes modd iddyn nhw gael mynediad at e-byst neu os ydyn nhw angen cymorth ychwanegol, a bydd manylion pellach yn cael eu rhannu'n uniongyrchol â chwsmeriaid yn rhan o gyfathrebiadau'r Cyngor.

Caiff trigolion eu hannog i gadw llygad am ragor o wybodaeth gan y Cyngor dros yr wythnosau nesaf.

Wedi ei bostio ar 23/12/2025