Skip to main content

Bwyd RhCT yn Ennill Gwobr ARIAN!

Mae partneriaeth sy'n helpu busnesau lleol a grwpiau cymunedol i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy wedi ennill gwobr genedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod Partneriaeth Bwyd RhCT wedi ennill Gwobr ARIAN genedlaethol fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Partneriaeth fwyd wedi'i chynnal gan Gyngor Rhondda Cynon TafywBwyd RhCT. Ei gweledigaeth yw gall pob person yn Rhondda Cynon Taf gael gafael ar fwyd maethlon, fforddiadwy a chynaliadwy.

Ar ôl dod yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac ennill gwobr efydd yn 2023, cafodd Partneriaeth Bwyd RhCT ei sefydlu'n wreiddiol yn dilyn achlysur Rhwydwaith Datrysiadau Tyfu Cymunedol a gafodd ei gynnal gan Interlink RhCT ym mis Gorffennaf 2020. Diolch i'r gwaith caled a'r ymroddiad di-ben-draw, mae'r bartneriaeth bellach wedi'i huwchraddio, wrth iddi gipio'r wobr ARIAN yn y seremoni ddiweddaraf.

Mae hyn yn dangos bod gyda Phartneriaeth Bwyd RhCT bartneriaeth fwyd amrywiol, cadarn a chynaliadwy ar waith sy'n rhychwantu sectorau. Mae gyda'r Bartneriaeth gynlluniau hirdymor strategol ac mae'n cydnabod meysydd sy'n sbarduno arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o bolisïau'r awdurdod lleol a mentrau cael gafael ar fwyd, yn ogystal â hyrwyddo bwyd cynaliadwy ac iach i bawb a'r gallu i gael gafael arno. A hynny i gyd wrth ddangos ei fod yn fudiad bwyd da lleol, amrywiol a chysylltiedig.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o dderbyn Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar ran Partneriaeth Bwyd RhCT am eu gwaith rhagorol yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy yn ein cymuned. 

“Roedd yn bleser clywed yr adborth gan Leoedd Bwyd Cynaliadwy. Fe wnaethon nhw nodi bod meysydd o arweinyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol, a bod dull llywodraethu Partneriaeth Bwyd RhCT yn gryf. Hefyd, mae mewnbwn y gymuned a'i chynnwys yn rhan o'r Bartneriaeth yn amlwg drwyddo draw. Gwaith gwych gan bawb!

“Mae ymrwymiad Carfan Datblygu'r Gymuned i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy wedi cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol ledled y Fwrdeistref Sirol tuag at ddyfodol iachach.

“Rydw i’n llongyfarch y garfan, a’r bartneriaeth, am gael eu cydnabod gyda’r wobr haeddiannol yma.”

Ar hyn o bryd, Rhondda Cynon Taf yw un o ddim ond 10 ardal awdurdod lleol yng Nghymru i ennill un o wobrau Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ers eu sefydlu yn 2015.

Meddai Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy:

“Mae Partneriaeth Bwyd RhCT wedi dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maen nhw'n byw. “Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae Partneriaeth Bwyd RhCT wedi helpu i osod meincnod i'r 120 a mwy o aelodau eraill Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn. Dylen nhw fod yn falch iawn o’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i drawsnewid ein diwylliant bwyd a’n system fwyd ar y cyd er gwell.”

Mae’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn gweithio ar draws chwe maes allweddol:

  1. Mabwysiadu ymagwedd strategol a chydweithredol at lywodraethu a gweithredu mewn perthynas â bwyd.
  2. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithredol a mudiad bwyd da lleol.
  3. Mynd i'r afael â thlodi bwyd, afiechyd sy'n gysylltiedig â deiet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy.
  4. Creu economi bwyd cynaliadwy bywiog, ffyniannus ac amrywiol.
  5. Trawsnewid arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi lleol.
  6. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi diwedd ar wastraff bwyd.

Am ragor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd RhCT ewch i www.rctcbc.gov.uk/BwydRhCT ac am ragor o wybodaeth am Leoedd Bwyd Cynaliadwy ewch i https://www.sustainablefoodplaces.org/ (Saesneg yn unig).

Mae modd darllen y strategaeth yma - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Consultations/CurrentConsultations/RelatedDocuments/2025/SustainableFoodStrategy/SustainableFoodTaithBwydStrategy.pdf

Wedi ei bostio ar 22/12/2025